Mae’n bleser gennym gyflwyno Adolygiad Blynyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer cyfnod 2024/25. Mae'r ddogfen hon yn rhoi crynodeb o'r Adroddiad Blynyddol llawn a'r Cyfrifon ac mae'n cynnig cyfle pwysig i fyfyrio ynghylch cynnydd eleni, heriau ac ymrwymiad parhaus ein staff, partneriaid, a'n cymunedau i wella gwasanaethau iechyd a gofal ar draws Gogledd Cymru. Mae eleni wedi bod yn un hollbwysig yn nhaith cynnydd y Bwrdd Iechyd ar ôl iddo ddod yn destun Mesurau Arbennig ym mis Chwefror 2023. Er bod cryn heriau'n parhau, mae'r gwelliannau sefydlog a mesuradwy a wnaed ar draws meysydd allweddol gan gynnwys arweinyddiaeth, llywodraethu, ansawdd clinigol, dulliau rheoli ariannol yn galonogol i ni. Mae'r gwelliannau hyn o ganlyniad i gryn ffocws, disgyblaeth, a chydweithio yn y sefydliad trwyddo draw ac ar draws ein system iechyd a gofal ehangach. Trwy gydol y flwyddyn, rydym wedi cymryd camau i atgyfnerthu sylfeini'r Bwrdd Iechyd.
Rydym wedi parhau i sefydlogi ein strwythurau arwain ac rydym yn creu diwylliant sydd wedi'i wreiddio mewn tryloywder, rhannu cyfrifoldeb, a dysgu parhaus. Mae ein timau clinigol wedi gweithio'n galed i wella mynediad a chanlyniadau i gleifion, er gwaethaf pwysau parhaus o ran argaeledd y gwasanaeth a galw am wasanaethau.
Rydym wedi gweld cynnydd ym maes adferiad gofal wedi'i gynllunio, llwybrau gofal brys a gofal argyfwng, a chyflawni blaenoriaethau allweddol ym maes iechyd y cyhoedd, ond rydym hefyd yn deall i lawer un yn ein poblogaeth, mai mynediad i wasanaethau iechyd a lles sy'n dal i beri anhawster.
Mae datblygiadau seilwaith wedi symud ymlaen yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys datblygu hwb orthopedig newydd yn Ysbyty Llandudno, yn cynnwys buddsoddi yn ein hystad a'u cyfleusterau sydd â'r nod o ategu cynnig gofal modern, diogel, ac effeithiol. Rydym hefyd wedi parhau i gyflymu'r broses o roi ein rhaglen trawsnewid digidol ar waith, gan gydnabod y rôl y mae'n rhaid i arloesi a thechnoleg ei chyflawni o ran dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal. Fel rhan o hyn, mae gwaith ar y gweill bellach i roi cofnod gofal iechyd electronig ar waith o fewn ein gwasanaethau iechyd meddwl - sef cam allweddol o ran gwella cydlyniant, parhad ac ansawdd gofal i'n cleifion.
Rydym yn falch o fod wedi cyflwyno technolegau arloesol megis llawdriniaeth ar y benglin â chymorth robot sy'n rhoi'r Bwrdd Iechyd ar flaen y gad o ran arfer llawfeddygol modern. Mae'r datblygiad hwn eisoes yn gwella canlyniadau i gleifion ac yn lleihau amseroedd adfer, ac mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i ragoriaeth glinigol ac arloesi. Mae ein partneriaethau wedi cael eu hatgyfnerthu dros y flwyddyn ddiwethaf. Gan weithio'n agos gydag awdurdodau lleol, y trydydd sector, cleifion, a'r cyhoedd, rydym yn ail-lunio ein gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion ein cymunedau'n well. Rydym yn ddiolchgar i bob un sydd wedi ymuno â ni i helpu i lywio cyfeiriad iechyd a gofal ar draws y rhanbarth yn y dyfodol.
Rydym hefyd yn cydnabod bod heriau'n parhau. Mae recriwtio a chadw staff mewn rhai meysydd clinigol allweddol yn parhau i fod yn anodd, ac mae pwysau ariannol yn
parhau ar draws y system. Bydd y materion hyn yn gofyn am sylw parhaus, ymdrech ar y cyd, a sgyrsiau gonest ynghylch sut rydym yn blaenoriaethu gofal ar y cyd.
Wrth i ni edrych tua'r dyfodol, ein blaenoriaeth yw cynnal ac adeiladu ar y cynnydd a fydd yn gofyn am ffocws parhaus, cymorth gan ein partneriaid, ac ymrwymiad ar y cyd i roi anghenion cleifion a chymunedau'n gyntaf. Rydym yn rhannu'r Adolygiad Blynyddol hwn fel ffordd o fyfyrio ynghylch yr hyn sydd wedi'i gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf a datganiad clir o'n cyfeiriad ar gyfer y dyfodol. Gobeithiwn y byddwch yn rhoi o'ch amser i ystyried ei gynnwys, ac rydym yn croesawu eich cymorth parhaus a'r heriau wrth i ni weithio i ailennyn hyder, gwella canlyniadau, a chynnig gofal o ansawdd uchel ar gyfer pobl a chymunedau Gogledd Cymru.