Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg Gweithgarwch

Yma hoffem roi cipolwg o'r gwasanaethau y mae ein staff yn eu darparu a'r gweithgarwch cysylltiedig. Mae’r rhan fwyaf o gysylltiadau cleifion, tua phedwar o bob pump, â gwasanaethau iechyd yn digwydd yn y gymuned, er enghraifft mewn practisau meddygon teulu, fferyllfeydd, gwasanaethau deintyddol, gwasanaethau optometreg neu gartrefi’r cleifion eu hunain. Yn 2022/23:

  • 71,843 ymgynghoriad wedi eu cynnal mewn fferyllfeydd o dan y Cynllun Anhwylderau Cyffredin
  • 38,725 o ymgynghoriadau gwasanaethau meddyginiaethau brys wedi'u cynnal gan fferyllfeydd
  • 18,286 o bobl ar gyfartaledd yn derbyn triniaeth ddeintyddol y GIG bob mis

Bu’n flwyddyn brysur hefyd i’n hysbytai gyda lefelau gweithgarwch uwch ar draws bron pob maes, gan gyfleu'r pwysau brys y mae’r Bwrdd Iechyd wedi’i wynebu a’r gwaith i gynyddu ein gweithgarwch triniaethau wedi’u cynllunio wrth i ni geisio sicrhau adferiad wedi'r aflonyddwch a achoswyd gan bandemig Covid-19. Yn 2022/23 roedd:

  • 822,589 o apwyntiadau cleifion allanol mewn ysbytai
  • 326,964 o bobl wedi ymweld ag Adran Achosion Brys

neu Uned Mân Anafiadau

  • 11,737 o driniaethau wedi'u cynllunio wedi'u cynnal
  • 93,089 o lawdriniaethau achosion dydd
  • 5,595 o enedigaethau

Mae ein gwasanaethau Therapi yn rhan hanfodol o’r system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan ac yn ystod y flwyddyn cawsant fwy na 130,400 o gyfeiriadau newydd, a:

  • Mynychwyd mwy na 91,000 apwyntiadau cleifion allanol newydd
  • Mynychwyd mwy na 271,000 o apwyntiadau dilynol
  • Cafodd mwy na 333,500 o gleifion eu

Trin/gweld mewn ysbytai gan ein Therapyddion yn ystod 2022/23. Cynhaliodd ein Nyrsys Ardal:

  • 659,2800 o ymweliadau, gyda thua 43,943 ohonynt y tu allan i oriau craidd a 114,131 ar y penwythnos i sicrhau ystod deg a hygyrch o wasanaethau