Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg ar Berfformiad

Unwaith yn rhagor, mae'r 12 is diwethaf wedi bod yn heriol iawn i'r Bwrdd Iechyd. Rydym ni, fel pob Bwrdd Iechyd arall yng Nghymru, wedi wynebu costau cynyddol sydd wedi arwain at bwysau ar ein cyllidebau sydd eisoes dan bwysau wrth i ni ymdrechu i wneud ein gorau glas i bobl Gogledd Cymru.

Mae 2023/24 hefyd yn nodi’r flwyddyn lawn gyntaf ers i ni ddod yn destun mesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru, gan ychwanegu at y materion sy’n ein hwynebu yma. Nid dod yn destun mesurau arbennig yw'r unig fater yr ydym wedi gorfod rhoi sylw iddo yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae staff y GIG ledled Cymru wedi bod yn streicio, ac er ein bod yn deall y rhesymau dros eu gweithredu diwydiannol, mae hynny wedi tarfu ar lawer o driniaethau wedi'u cynllunio.

Yn dilyn adroddiad beirniadol gan Archwilio Cymru ynghylch ein llywodraethu a’n rheolaeth ariannol yn 2023, rydym yn falch fod yr adroddiad diweddaraf a gyhoeddwyd yn 2024 yn cydnabod y cynnydd yr ydym wedi’i wneud, er yr erys rhywfaint o waith i'w gyflawni.

Mae nifer o faterion cymhleth ac anodd eraill wedi codi yn ystod y flwyddyn:

  • Rydym yn dal i wynebu heriau o ran recriwtio staff i weithio mewn rhai disgyblaethau, ond yn ddiweddar, rydym wedi llwyddo i recriwtio nyrsys o India i lenwi rhai swyddi.
  • Mae amseroedd aros yn dal yn rhy hir mewn llawer o achosion, ac rydym yn rhannu rhwystredigaeth cleifion sy’n aros am driniaeth.
  • Mae gwasanaethau gofal sylfaenol, gan gynnwys deintyddiaeth, yn profi pwysau eithriadol, ac rydym yn cymryd camau i wella’r gwasanaethau hyn.
  • Cafodd y Bwrdd Iechyd ddirwy yn dilyn erlyniad gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Rydym wedi ymddiheuro i’r teulu dan sylw ac rydym yn benderfynol o barhau i wella’r gwasanaeth a ddarparwn, yn enwedig yn y meysydd nad ydym yn cyflawni ein huchelgais i fod yn wasanaeth rhagorol.
  • Rydym hefyd wedi bod yn destun nifer o adroddiadau Atal Marwolaethau yn y Dyfodol gan grwneriaid Gogledd Cymru. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd yr adroddiadau hyn ac yn eu cymryd o ddifrif oherwydd mae'r ystadegau yn cynrychioli pobl sydd wedi profi colled bersonol. Mae gwaith yn mynd rhagddo i nodi ac ymateb i'r themâu allweddol a'r gwersi i'w dysgu sydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiadau. Mae angen i ni wella llawer o bethau er mwyn sicrhau ein bod ni'n darparu gwasanaethau sy'n blaenoriaethu ansawdd a diogelwch cleifion.

Rydym wedi amlygu gwelliannau mewn meysydd yn ystod y flwyddyn, ac mae lefelau gweithgarwch ym mhob agwedd bron iawn ar ein gwasanaethau yn adeiladu ar sail y gwelliannau a wnaed y llynedd ac yn parhau i gynyddu, ac rydym wedi cyflawni nifer o brosiectau strategol allweddol yn llwyddiannus. Mae ein Cymunedau Iechyd Integredig newydd yn ymsefydlu fel strwythur allweddol yn ein hymdrechion i ddatblygu ein cydberthnasau gwaith ag awdurdodau lleol yn enwedig mewn perthynas â gwasanaethau cymdeithasol ac addysg.

O ran mesurau arbennig, nid yw byth yn dda i unrhyw gorff cyhoeddus gael ei roi yn y sefyllfa hon. Fodd bynnag, mae wedi helpu i sicrhau bod ein hymdrechion yn canolbwyntio ar elfennau o'n gwasanaeth yr oedd angen eu gwella. Rydym eisoes wedi sicrhau gwelliannau ac rydym yn trin pobl yn gynt mewn nifer o feysydd. Er enghraifft, mae nifer y bobl sy'n aros mwy na 52 wythnos am apwyntiad cyntaf wedi gostwng 45% ac mae nifer y bobl sy'n aros dros 104 wythnos wedi gostwng 37%. Fodd bynnag, mae llawer mwy i'w wneud ac rydym yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â'r amseroedd aros hir.

 Mae'r gwasanaethau fasgwlaidd wedi cael eu dad-ddwysáu gan Arolygiaeth Iechyd Cymru ac wedi cael adolygiad allanol cadarnhaol, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo ein cynlluniau ar gyfer canolfan orthopedig gwerth miliynau o bunnoedd yn Llandudno a fydd yn trin 1,900 o gleifion ychwanegol bod blwyddyn ar ôl cychwyn gweithredu yn 2025.

Rydym yn rheoli ein cyllidebau yn well yn y cefndir. Rydym wedi cymeradwyo cynllun ariannol a tharged o ran arbedion, ac rydym wedi darparu hyfforddiant ychwanegol ar gyfer mwy na 400 aelod o staff ynghylch gwella ein harferion caffael. Rydym wedi lleihau ein defnydd o gontractau tymor byr drud, gan gynnwys staff interim, gan 82%.

Rydym bellach wedi penodi holl Aelodau Annibynnol y Bwrdd, a gallant sicrhau bod craffu ar ein gwasanaethau yn digwydd trwy gyfrwng ein his-bwyllgorau. Rydym yn buddsoddi yn ein staff ac yn annog diwylliant gweithio cadarnhaol sy’n ddidwyll ac yn onest fel y gall pawb rannu eu safbwyntiau a’u syniadau i wella profiad cleifion.

Rydym wedi gwneud cynnydd dros y flwyddyn ddiwethaf.  Ond rydym yn gwybod yn bendant bod gennym gryn dipyn yn rhagor o waith i'w wneud. Mae gwella ein gwasanaethau i sicrhau y bydd ein mesurau arbennig yn dirwyn i ben yn bwysig, ond mae sicrhau mai'r holl wasanaethau rydym yn eu darparu yw'r rhai gorau i bobl Gogledd Cymru yn bwysicach fyth.