Neidio i'r prif gynnwy

Pwy ydym ni

Y Bwrdd Iechyd yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, ac mae gennym ni gyllideb gwerth £1.99 biliwn a dros 20,000 o staff yn ein gweithlu. Mae'r Bwrdd Iechyd yn system iechyd integredig sy'n anelu at ddarparu gofal tosturiol rhagorol gan gydweithio â sefydliadau cyhoeddus a sefydliadau statudol eraill, a sefydliadau yn y trydydd sector.

Rydym yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd i fwy na 700,000 o bobl ledled chwe sir gogledd Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam).  Mae hyn yn cynnwys darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol ac iechyd meddwl, yn ogystal â gwasanaethau ysbytai cyffredinol. Mewn lleoliadau gofal sylfaenol, mae'r Bwrdd Iechyd yn darparu gofal gan y GIG trwy gyfuniad o gontractwyr annibynnol a gwasanaethau a ddarperir yn uniongyrchol ledled Gogledd Cymru.

Mae'r rhwydwaith hwn o wasanaethau gofal sylfaenol yn cynnwys 96 o bractisau meddygol (“practisau meddygon teulu”), 83 o bractisau deintyddol ac orthodontig, 69 o bractisau optometreg/optegydd a 147 o fferyllfeydd cymunedol.

Mewn lleoliadau cymunedol, mae’r Bwrdd Iechyd yn darparu ystod eang o wasanaethau cymunedol y GIG gan gynnwys nyrsio yn y gymuned, gwasanaeth ymwelwyr iechyd, ffisiotherapi, a gofal lliniarol, trwy rwydwaith o ganolfannau iechyd, clinigau, canolfannau timau cymunedol ac 16 o ysbytai cymunedol, a chânt eu cydlynu ar sail 14 o 'ardaloedd lleol'. Caiff gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol eu darparu mewn canolfannau ledled Gogledd Cymru, â chymorth unedau iechyd meddwl ar gyfer cleifion preswyl ledled y rhanbarth.

Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol ac iechyd meddwl i boblogaeth carchar CEF Berwyn yn Wrecsam. Darperir gwasanaethau ysbytai cyffredinol mewn tri phrif safle, sef Ysbyty Gwynedd ym Mangor, Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ac Ysbyty Maelor Wrecsam, a chaiff rhai gwasanaethau llawfeddygol eu darparu yn Abergele a Llandudno hefyd.

Lle na ellir darparu gofal gan y GIG yng Ngogledd Cymru, megis ynghylch rhai cyflyrau prin neu wasanaethau tra arbenigol, mae’r Bwrdd Iechyd yn cydweithio â darparwyr eraill y GIG yng Nghymru a Lloegr, i sicrhau bod gan gleifion fynediad at y triniaethau arbenigol sydd eu hangen arnynt.

Rydym hefyd yn gyfrifol, trwy bartneriaeth, am wella iechyd a lles pobl leol drwy weithgareddau megis ein rhaglenni brechu llwyddiannus a gwasanaethau iechyd ar gyfer ysgolion.