Neidio i'r prif gynnwy

Ein cynlluniau ar gyfer

Ym mis Mawrth, gwnaethom gyflwyno ein Cynllun Integredig Tair Blynedd ar gyfer 2024 hyd at 2027.

Mae'r Cynllun Integredig hwn yn nodi adeg bwysig i'r Bwrdd Iechyd. Hwn yw'r cynllun cyntaf a ddatblygwyd gan y Bwrdd Iechyd o dan arweinyddiaeth Cadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol newydd, ynghyd â newid sylweddol i aelodaeth y Bwrdd. Mae'n dangos uchelgais clir i roi trawsnewid a gwella ar waith ac i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel ac sy'n gynaliadwy ar gyfer pobl Gogledd Cymru. Mae'r cynllun hwn yn amlinellu llawer o'r camau gweithredu sydd eu hangen i wneud hynny ac yn benodol, mae'n tanlinellu bod llwyddiant parhaol yn ei gwneud yn ofynnol i ni fynd i'r afael â'r heriau presennol gyda dealltwriaeth gadarn am anghenion yn y dyfodol.

Fel y cyfryw, rydym yn tynnu sylw at yr angen i bennu gweledigaeth strategol glir ar gyfer y Bwrdd Iechyd dros y cyfnod nesaf o
ddeng ymlaen a fydd yn arwain at welliannau i iechyd a lles ac sy'n cynnig gwasanaethau gofal iechyd ardderchog i bobl yng Ngogledd Cymru. Bydd hyn yn ein harwain wrth adeiladu ymhellach ar y gwasanaethau sy'n gweithio'n dda gan gynorthwyo gwasanaethau y mae angen eu hadlunio er mwyn delio â'r galw nawr ac yn y dyfodol.

I wneud hyn, byddwn yn gwrando'n astud ar bobl Gogledd Cymru a'n partneriaid gan gydweithio â nhw ac mae ein bwriad i wneud hynny wedi'i nodi'n glir yn y Cynllun hwn. Bydd hyn yn arwain at y datrysiadau gorau i Ogledd Cymru ac mae'n cydnabod bod y datrysiadau hynny'n cynnwys perthnasoedd dwfn ac ystyrlon ar sail ymddiriedaeth a'r ddealltwriaeth y bydd cydweithio fel 'system gyfan' yn cynorthwyo'r Bwrdd Iechyd a'n partneriaid, ac yn arwain at ganlyniadau gwell.

Y Bwrdd Iechyd yw'r cyflogwr mwyaf yng Ngogledd Cymru, gyda chyllideb flynyddol o ryw £2 biliwn. Felly rydym yn awyddus i ddefnyddio'r adnodd cyhoeddus hwn i helpu Gogledd Cymru i ffynnu. Mae hyn yn cynnwys sut y gallwn greu cyfleoedd ar gyfer ein gweithlu nawr ac yn y dyfodol gan weithio'n ofalus gyda'n partneriaid wrth wneud hynny. Mae hefyd yn cynnwys cyfleoedd yn ymwneud â sut byddwn yn gwario ein cyllideb er mwyn cael y canlyniadau iechyd gorau i boblogaeth Gogledd Cymru a sut i wneud y mwyaf o'n rôl fel 'sefydliad angori' yng Nghymru.

Yn olaf, hoffem ddiolch i'n cymunedau a'n partneriaid am eu cefnogaeth a'u parodrwydd i rannu cyngor a syniadau. Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar hyn wrth i ni gryfhau ein perthnasoedd ac ystyried ffyrdd o wella gwasanaethau gofal iechyd gyda'n gilydd yng Ngogledd Cymru nawr ac yn y dyfodol.