Dyma'r flwyddyn lawn gyntaf ers i ni gael ein rhoi dan fesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru, a ysgogodd newid arweinyddiaeth, gan gynnwys penodi tîm newydd llawn o Aelodau Annibynnol i'r Bwrdd.
Er bod effeithiau COVID-19 yn lliniaru, rydym wedi bod yn delio â materion heriol eraill gan gynnwys gweithredu diwydiannol gan rai o’n staff a sefyllfa ariannol anodd barhaus. Yn y cyfamser, mae methiannau sylweddol â rhai agweddau ar ein perfformiad wedi'u nodi ac rydym yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â hwy.
Mae'r cyd-destun ariannol yr ydym ni a bron iawn pob corff cyhoeddus arall fwy neu lai yn gweithredu ynddo yn dal i fod yn heriol, yn y tymor byr a'r tymor hir. Er ein bod wedi gwneud cynnydd dros y flwyddyn ddiwethaf, erys ein diffyg ariannol sylfaenol ac mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â hynny.
Rydym hefyd yn parhau i wynebu prinder staff mewn llawer o feysydd allweddol, a achosir gan farchnad recriwtio anodd. Dyna pam y gwnaethom ni, ynghyd â Byrddau Iechyd eraill, gefnogi ymgyrch recriwtio Llywodraeth Cymru i benodi staff meddygol o'r India i ddod i weithio gyda ni yng Nghymru.
Cleifion a'u hanghenion sydd wedi cael ein sylw pennaf trwy gydol y flwyddyn. Rydym yn deall yr anawsterau y mae llawer ohonynt yn eu hwynebu, gan gynnwys gorfod aros mewn Adrannau Achosion Brys ac am lawdriniaethau ac apwyntiadau deintyddol.
Rydym yn rhannu eu rhwystredigaethau ac yn gwybod y gallwn, a bod yn rhaid i ni, wneud yn well. Rydym wedi gwneud penderfyniad i fod mor agored a thryloyw â phosibl gyda phobl Gogledd Cymru, fel y gallant ddeall y pwysau sy'n ein hwynebu a gwrando ar eu barn.
Dyna pam rydym wedi dechrau cyfres o sgyrsiau cymunedol, gan ymweld â threfi a phentrefi ar draws Gogledd Cymru, lle mae croeso i bawb gyfarfod a holi ein haelodau Bwrdd a’n Tîm Gweithredol ar y gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn dymuno cael clywed am eu profiadau, boed y rheiny'n rai da neu'n rhai gwael, fel y gallwn wrando a dysgu. Bydd y digwyddiadau hyn yn parhau trwy gydol y flwyddyn hon ac wedi hynny. Er ei bod yn hawdd canolbwyntio ar y pethau negyddol, ceir rhesymau i fod yn optimistaidd ac mae'n rhaid i ni ddiolch i'n staff am hynny. Maent yn darparu gofal, cymorth a thriniaethau rhagorol i filoedd o bobl ledled Gogledd Cymru bob wythnos, a dymunwn gydnabod eu hymroddiad a’u harbenigedd parhaus o ran eu dull o ofalu am ein cleifion a’r gymuned ehangach.
Mae gwytnwch, ymrwymiad a brwdfrydedd staff rheng flaen a staff cymorth yn rhywbeth y gallwn ni i gyd fod yn falch ohono, a dyna sy'n rhoi gobaith i ni am y dyfodol. Er enghraifft, dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi sicrhau gostyngiad o 45% yn nifer y bobl sy’n aros 52 wythnos i gael apwyntiad cyntaf ac mae'r gwasanaeth fasgwlaidd wedi cael adolygiad allanol cadarnhaol gan Gwella Iechyd Cymru, ac rydym wedi sefydlu dulliau newydd o drin a diagnosio rhai mathau o ganser gan gynnwys defnyddio deallusrwydd artiffisial i ymdrin â chanser y fron a chanser y brostad.
Mae gwaith i adeiladu canolfan orthopedig newydd sbon yn Ysbyty Llandudno hefyd wedi dechrau. Cymeradwyodd Llywodraeth Cymru gyllid gwerth hyd at £29.4m i ariannu'r cyfleuster newydd i helpu i gwtogi amseroedd aros am wasanaethau orthopedig. Bydd y ganolfan newydd yn trawsnewid gwasanaethau orthopedig dewisol drwy ddarparu 1,900 o driniaethau a gynllunir bob blwyddyn, a bydd yn cychwyn gweithredu yn 2025.
Rydym yn cydnabod na allwn weithredu ar ein pennau ein hunain oherwydd rydym yn rhan o system iechyd a gofal cymdeithasol lawer ehangach sy’n cynnwys awdurdodau lleol, sefydliadau addysgol, sefydliadau gwirfoddol a’r gwasanaeth ambiwlans.
Rydym yn gweld gwerth yn y partneriaethau sydd gennym â'r sefydliadau hyn a llawer o sefydliadau eraill ledled Gogledd Cymru a'r tu hwnt. Maent yn wynebu heriau tebyg i'n heriau ni i ateb galwadau cynyddol o fewn yr adnoddau sydd ar gael iddynt, a byddwn yn parhau i gydweithio'n agos trwy bartneriaeth â hwy bob tro y gallwn ni i fanteisio'n llawn ar yr adnoddau sydd ar gael i wella iechyd a lles ein poblogaeth.
Er enghraifft, rydym yn parhau i gydweithio'n agos â Phrifysgol Bangor. Yno, croesawir myfyrwyr cyntaf rhaglen gradd feddygol lawn gyntaf Gogledd Cymru ym mis Medi 2024, trwy gydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd a darparwyr gofal sylfaenol yn y rhanbarth.
Heb os, bydd y flwyddyn sydd ar ddod yn dal i fod yn heriol, ond mae gobaith at y dyfodol. Rydym wedi llunio cynllun tair blynedd sy’n nodi ein huchelgeisiau hyd at 2027 ac sy’n croesawu diwylliant o welliannau i’n gwasanaethau. Yn ein tyb ni, mae hynny'n profi ein bod yn blaenoriaethu’r pethau priodol er mwyn gwella’r gwasanaeth iechyd yng Ngogledd Cymru.