Neidio i'r prif gynnwy

Dosbarth Pump: Ein polisïau a'n gweithdrefnau

Mae dosbarth pump yn cynnwys gwybodaeth am: 

Yma fe welwch chi:

Polisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud â chynnal busnes a darparu gwasanaethau

Bydd gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau yn cael eu hychwanegu yma. Am fwy o wybodaeth yn y cyfamser cysylltwch BCU.Policies@wales.nhs.uk

Iechyd a diogelwch

Polisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud ag adnoddau dynol, gan gynnwys polisïau recriwtio a chyflogaeth

Bydd gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau'n cael ei hychwanegu yma, i gael rhagor o wybodaeth yn y cyfamser, cysylltwch ag Adnoddau Dynol. 

Polisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth

Cynllun cydraddoldeb

Asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb

Safonau’r Gymraeg yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Gweithdrefnau / cyfarwyddiadau ariannol sefydlog

Rheolau sefydlog

Cwynion a pholisïau a gweithdrefnau eraill sy'n ymwneud â gwasanaeth i gwsmeriaid

Diogelu data / Rheoli Cofnodion / Gwarcheidwad Caldicott

Strategaeth Llywodraethu Gwybodaeth BIPBC F9

Mae Llywodraethu Gwybodaeth yn fframwaith sy'n dod â safonau cyfreithiol, moesegol ac ansawdd ynghyd sy'n berthnasol i ddelio â gwybodaeth; mae'n berthnasol i wybodaeth sensitif a phersonol unrhyw unigolion, gan gynnwys cyflogeion a chleifion. Yn y Bwrdd Iechyd mae hyn yn cael ei oruchwylio gan y Pwyllgor Digidol a Llywodraethu Gwybodaeth (DIGC), ac mae'n cael ei reoli o ddydd i ddydd gan y tîm Llywodraethu Gwybodaeth yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data a'r Ddyletswydd Cyfraith Gyffredin ar Gyfrinachedd. Mae'r DIGC yn adrodd yn uniongyrchol i'r Bwrdd.

Bydd unigolyn ar lefel uwch, gweithiwr iechyd proffesiynol fel rheol, yn cael ei enwebu i fod yn Warcheidwad Caldicott, a fydd yn gyfrifol yn benodol am ddiogelu cyfrinachedd gwybodaeth claf. Y sawl sydd wedi'i phenodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ydy Dr Melanie Maxwell, Uwch Gyfarwyddwr Meddygol Cyswllt.

Mae Llywodraethu Gwybodaeth yn eistedd ochr yn ochr â llywodraethu clinigol a chorfforaethol, ac mae'n canolbwyntio ar sicrhau bod yr wybodaeth honno'n cael ei thrin mewn ffordd ddiogel.

Mae GIG Cymru wedi cynhyrchu taflen o'r enw 'Eich Gwybodaeth Eich Hawliau' sy'n egluro pam mae'r GIG yn casglu gwybodaeth am gleifion a sut gallai'r wybodaeth gael ei defnyddio. Mae'n rhoi manylion hawliau cleifion i weld eu cofnod iechyd a sut mae cael gafael arno.

Mae polisïau a gweithdrefnau Llywodraethu Gwybodaeth cymeradwy'r Bwrdd Iechyd ar gael yn adran Polisïau a Gweithdrefnau'r wefan.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) ydy rheoleiddiwr y DU dros ddeddfwriaeth Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth. Cafodd ei sefydlu i gynnal hawliau gwybodaeth er budd y cyhoedd, annog cyrff cyhoeddus i fod yn agored a sicrhau preifatrwydd data unigolion.

Rheoli'r ystad

Trefniadau a pholisïau codi ffioedd