Oherwydd yr heriau na welwyd eu tebyg o’r blaen yr ydym oll yn eu hwynebu yn ystod y pandemig Coronafirws (COVID-19), gofynnwn, gyda phob parch, os nad yw eich cais am wybodaeth yn fater brys, eich bod yn ystyried a all eich cais am wybodaeth dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu Gais Gwrthrych am Wybodaeth Diogelu Data gael ei oedi.
Rydym yn dal i ymrwymo i ymateb i geisiadau am wybodaeth dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data a byddwn yn ymateb cyn gynted â phosibl, ond efallai y bydd rhywfaint o oedi wrth ymateb i'ch cais o fewn yr amserlen statudol oherwydd ymatebion gweithredol brys yn ymdrin â blaenoriaethau COVID-19.
Mae’n ddrwg iawn gennym am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi. Os yw ein hymateb i'ch cais yn torri'r amserlen statudol, ac rydych yn dal yn anhapus gyda'n hymateb, mae gennych hawl i gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth a gallwch gysylltu â nhw ar:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru
Ail Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH
Ffôn: 0330 414 6421
wales@ico.org.uk
www.ico.org.uk
twitter.com/iconews
Gallwch anfon Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a Cheisiadau Gwrthrych am Wybodaeth dros e-bost i: bcu.foi@wales.nhs.uk
Neu ysgrifennwch at:
Y Swyddfa Llywodraethu Gwybodaeth
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr
Ysbyty Maelor Wrecsam
Ffordd Croesnewydd
Wrecsam
LL13 7TD
Rhagor o wybodaeth
Cyflwyniad i'n Cynllun Cyhoeddi
Gallwch anfon Ceisiadau Gwrthrych am Wybodaeth dros e-bost i: bcu.foi@wales.nhs.uk
Ffurflen Cais Gwrthrych am Wybodaeth
Taflen Cais Gwrthrych am Wybodaeth
Os byddwch chi angen help wrth gael gafael ar wybodaeth gan Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, cysylltwch â'r Tîm Llywodraethu Gwybodaeth ar 03000 858 361.
Gan fod Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr yn awdurdod cyhoeddus mae'n rhoi hawl i'w gleifion, ei staff ac i'r cyhoedd gael mynediad at amrywiaeth o wybodaeth. Dilynwch y dolenni isod i weld sut gallwch chi gael mynediad at yr wybodaeth sy'n cael ei chadw, o wybodaeth fusnes i wybodaeth bersonol.
I wneud cais am amrywiaeth o wybodaeth fusnes ynghylch y Bwrdd Iechyd o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, dilynwch y ddolen.
I wneud cais am wybodaeth ynghylch materion amgylcheddol sy'n ymwneud â'r Bwrdd Iechyd o dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, dilynwch y ddolen.
I wneud cais am eich gwybodaeth bersonol gan gynnwys gwybodaeth yn eich cofnod iechyd drwy wneud 'Cais Gwrthrych am Wybodaeth' o dan ddeddfwriaeth diogelu data, dilynwch y ddolen.
I wneud cais am gopïau o gofnod iechyd claf sydd wedi marw o dan Ddeddf Mynediad at Gofnodion Iechyd 1990, dilynwch y ddolen hon
Uwch Swyddog Gwybodaeth Risg y Bwrdd Iechyd ydy Grace Lewis-Parry, Ysgrifennydd y Bwrdd.
Swyddog Diogelu Data'r Bwrdd Iechyd ydy Justine Parry, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Llywodraethu Gwybodaeth a Sicrwydd.
Gwarcheidwad Caldicott y Bwrdd Iechyd ydy Dr Melanie Maxwell, Uwch Gyfarwyddwr Meddygol Cyswllt
Gallwch gysylltu â'r Uwch Swyddog Gwybodaeth Risg, y Swyddog Diogelu Data a'r Gwarcheidwad Caldicott dros yr e-bost - bcu.dpo@wales.nhs.uk
I gael gwybodaeth am sut mae gwneud cais am gopïau o gofnodion iechyd ewch i'n tudalen.