Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Maelor Wrecsam: gwaith strwythurol fydd yn gwella ein gallu i ynysu ac arwahanu cleifion COVID-19

4/11/2020

Wrth i achosion o COVID-19 barhau i godi yn yr ardal, mae nifer y cleifion rydym yn gofalu amdanynt yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ar y wardiau ac yn dod i mewn drwy’r Adran Achosion Brys, yn cynyddu. Mae ein capasiti yn cael ei gyfyngu ymhellach oherwydd yr angen i arwahanu ac ynysu cleifion COVID-19 ac unrhyw glaf sydd wedi bod mewn cysylltiad â nhw. Mae staff yn gweithio’n galed i sicrhau bod cleifion yn parhau ar wahân pan fo’n bosibl.

I greu amgylchedd mwy diogel i bawb, gan ddechrau’r wythnos hon, rydym yn gwneud gwaith strwythurol fydd yn gwella ein gallu i ynysu ac arwahanu cleifion COVID-19.

Dros yr wythnosau nesaf pan fydd y gwaith hwn yn cael ei wneud, gofynnwn i’r cyhoedd ddod i’r Adran Achosion Brys mewn argyfwng yn unig. Mae’n ddrwg gennym y bydd yr oedi yn yr Adran Achosion Brys yn hirach na’r hyn yr hoffem iddynt fod yn y cyfnod hwn.

Os nad yw’n achos brys, dewiswch y gwasanaeth mwyaf priodol ar gyfer eich anghenion. Mae Unedau Mân Anafiadau yn yr Wyddgrug a Threffynnon sy’n gallu trin anafiadau nad ydynt yn rhai critigol ac sy’n peryglu bywyd ac fel arfer yn cynnig amseroedd aros llawer byrrach na’r Adrannau Achosion Brys – manylion yma.

Os ydych wedi cael eich galw i’r ysbyty ar gyfer apwyntiad, ewch i’r apwyntiad hwnnw os gwelwch yn dda.