Neidio i'r prif gynnwy

Y Clinig, Stryd Mount, Rhuthun ac Ysbyty Cymuned Rhuthun

Ym mis Medi 2019, cymeradwyodd y Bwrdd Iechyd gynlluniau i symud gwasanaethau Meddyg Teulu o Glinig Stryd Mount, Rhuthun i Ysbyty Cymuned Rhuthun a Inffyrmari Dinbych.

Bydd symud y gwasanaethau o Glinig Stryd Mount, yn darparu integreiddiad gwasanaeth o stad addas i bwrpas. Mae gwasanaethau ar hyn o bryd yn dameidiog ar draws pedwar safle yn Rhuthun, ac mae cleifion a staff yn teithio'n rheolaidd rhwng safleoedd ar gyfer apwyntiadau a diagnosteg.

Bydd y cynllun £3.14m yn cefnogi Strategaeth Gofal Cychwynnol Llywodraeth Cymru (2018), a strategaeth 'Byw'n Iach, Aros yn Iach' BIPBC (2019-2022), drwy fuddsoddiad mewn integreiddio timau gwasanaethau gofal cychwynnol a chymuned a chyd-leoli timau a gwasanaethau. Canolbwyntir ar y Model Gofal o amgylch 'Canolfan Iechyd a Lles' yn Ysbyty Cymuned Rhuthun, fel y disgrifir yn adran 'Gofal yn Agosach at y Cartref’, y Strategaeth 'Byw'n Iach, Aros yn Iach'.

Bydd yn cael ei danategu gan Raglen Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofal Cychwynnol (2018), sy'n canolbwyntio ar Ofal Cychwynnol fel y pwynt cyswllt cyntaf i gleifion a gweithio'n agos â phartneriaid.

Cymeradwywyd y prosiect Achos Busnes gan Fwrdd BIPBC ar 5 Medi, ac mae'n awr wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru ei gymeradwyo.