Rydym yn awyddus i fuddsoddi yn eu gwasanaethau Meddygaeth Niwclear arbenigol trwy greu canolfan asesu newydd o'r radd flaenaf yn Ysbyty Glan Clwyd.
Rydym ar hyn o bryd yn datblygu cynigion dylunio ar gyfer y prosiect fel rhan o'r broses o gymeradwyo'r achos busnes. Fel rhan o'r prosiect, mae ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar y cynigion dylunio amlinellol, cyn cyflwyno cais cynllunio.
Mae meddygaeth niwclear ddiagnostig yn arbenigedd radiolegol a ddefnyddir i ganfod afiechydon ac anafiadau ac i helpu clinigwyr i fonitro cynnydd triniaeth cleifion. Mae'n ddull sensitif iawn o ddelweddu ac mae'n helpu i ganfod abnormaleddau'n gynnar iawn o ran datblygiad afiechydon.
Mae meddygaeth niwclear yn cynnwys bod y claf yn cael math o feddyginiaeth a elwir yn ddeunydd radiofferyllol, ac fel arfer nid oes unrhyw sgil-effeithiau. Mae'r deunydd radiofferyllol yn cael ei ddewis yn benodol ar gyfer y math o archwiliad sydd dan sylw, ac mae’n cynnwys ychydig o ymbelydredd, sy'n gadael y corff yn weddol fuan ar ôl y prawf. Mae'r ymbelydredd yn caniatáu i'r offer delweddu arbenigol allu dilyn llwybr y feddyginiaeth trwy'r corff. Mae hwn yn brawf cyffredin a hirsefydledig erbyn hyn.
Rydym yn awyddus i gyfuno’r gwasanaeth Meddygaeth Niwclear presennol, sy'n cael eu darparu ar draws y tri phrif safle acíwt, sef Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Gwynedd, er mwyn darparu cyfleuster pwrpasol gwell, sy'n gallu cynnig lefelau gwell o ofal cleifion.
Byddai'r adeilad arfaethedig newydd yn creu estyniad i'r adeiladau ysbyty presennol. Byddai'n darparu lleoliad parhaol ar gyfer dau gamera Gama ac un sganiwr PET CT, ochr yn ochr â mannau cymorth i gleifion a gwasanaethau gweinyddol.
Cyn datblygu cais cynllunio gyda Chyngor Sir Ddinbych, rydym yn ymgynghori â'r gymuned ynghylch y cynigion drafft. Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, y bwriad yw cyflwyno cais cynllunio amlinellol i'r Cyngor.
Caiff cais cynllunio amlinellol ei gyflwyno yn y lle cyntaf. Bydd y broses hon yn cynnwys paramedrau dylunio ar gyfer y cynigion sy'n cael eu cyflwyno i gael eu cymeradwyo yn y lle cyntaf, cyn bo datblygiadau dylunio pellach yn cael eu cwblhau. Os caiff caniatâd ar gyfer y cais cynllunio amlinellol ei roi gan y Cyngor, caiff manylion llawn am y dyluniad eu paratoi'n ddiweddarach ac yna eu cyflwyno i'r Cyngor i gael eu cymeradwyo fel rhan o'r cais materion a gedwir yn ôl.
Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ar 11 Medi 2023 a bydd yn parhau tan 8 Hydref.
Cyn cyflwyno cynlluniau i Gyngor Sir Ddinbych, rydym yn gwahodd y gymuned i rannu eu sylwadau ar y cynigion.
Mae manylion am y cynigion ar gael isod;
Os hoffech wneud sylw ar y cynigion, gellir rhoi adborth ar-lein trwy gwblhau'r arolwg isod. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 8 Hydref 2023.
Arolwg Adborth o'r Ymgynghoriad: Canolfan Asesu Meddygaeth Niwclear Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan Arolwg
Fel arall, gellir gwneud sylwadau trwy anfon e-bost at dîm y prosiect ar: consultationpagesuk@tetratech.com
Os bydd gennych unrhyw ofynion penodol mewn perthynas â gwneud sylwadau neu weld y deunyddiau ymgynghori yn Gymraeg, cysylltwch âthîm y prosiect gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost uchod.