25.05.2024
Ar 28 Mawrth eleni, cymeradwyodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr arfarniad opsiynau ar gyfer y cynigion diwygiedig i ddatblygu Ysbyty Brenhinol Alexandra.
Byddai’r cynigion yma’n golygu bod yr adeilad presennol yn cael ei adnewyddu, ynghyd ag adeilad newydd fydd yn cynnwys gwelyau gofal yn nes at y cartref, Uned Mân Anafiadau ac Anhwylderau a gwasanaethau ategol eraill. Mantais ychwanegol y cynnig hwn yw’r ymrwymiad cryf i weithio’n agosach gyda’n cydweithwyr ym maes gofal cymdeithasol yn yr awdurdodau lleol a’r sector gwirfoddol.
Bydd gwaith yn cael ei wneud hefyd i wella meysydd parcio yn yr ysbyty ei hun ac o’i gwmpas, gan wneud mynediad i gleifion ac ymwelwyr yn haws.
Fel y gallwch ddychmygu, mae cryn dipyn o waith ar y gweill i gwblhau’r achos busnes llawn cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo. O ystyried y cyfyngiadau presennol ar gyllid cyfalaf yn genedlaethol, nid yw’n bosibl ariannu’r achos busnes gwreiddiol yn llawn, a chadarnhaodd y Prif Weinidog ei fod yn edrych ymlaen at dderbyn cynnig newydd.
Ef, yn ei rôl flaenorol fel Gweinidog Iechyd, a gymeradwyodd y cynlluniau gwreiddiol cyn i ffactorau allanol y tu hwnt i'n rheolaeth achosi cynnydd yn y costau.
Rydym bellach yn barod i ddatblygu cynlluniau manwl sy'n cynnwys cymaint o'r dyluniad gwreiddiol â phosibl. Rydym yn trefnu ymgysylltiad lleol â’r cyhoedd a’n rhanddeiliaid dros yr haf i drafod y syniadau yma’n fanylach.
Byddwn yn cyhoeddi'r digwyddiadau hynny ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein cynnydd wrth i ni weithio drwy’n cynlluniau.
Er mwyn gweld sut fedrwch chi gymryd rhan yn eich Bwrdd Iechyd, dilynwch y ddolen hon:
https://bipbc.gig.cymru/cymryd-rhan/
22.03.2024
Ers i ni ddatblygu ein hachos busnes llawn cychwynnol i ailddatblygu Ysbyty Brenhinol Alexandra yn Y Rhyl, mae costau cynyddol deunyddiau, ynghyd ag effeithiau'r pandemig byd-eang a'r dirywiad economaidd dilynol wedi golygu nad yw'r cynllun gwreiddiol yn fforddiadwy mwyach.
Er y gallai fod wedi ymddangos i aelodau'r cyhoedd bod y prosiect wedi'i roi o'r neilltu, y tu hwnt i'r llenni mae staff wedi bod yn gweithio'n galed i ddatblygu opsiynau newydd i wella a gloywi gwasanaethau ar y safle.
Yn y cyfamser, gwnaeth ychydig o newidiadau i'r ffordd yr ydym yn gweithio a sut y caiff gwasanaethau eu cyflunio ganiatáu i ni hefyd edrych ar y prosiect yn wahanol.
Ni fu erioed unrhyw newid i'n hymrwymiad i gynnig ysbyty cymunedol gwell a mwy datblygedig ar gyfer pobl Gogledd Sir Ddinbych.
Ddydd Iau, 28 Mawrth, caiff opsiynau diwygiedig eu cyflwyno gerbron cyfarfod llawn o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn Venue Cymru, Llandudno
Yn dilyn y cyfarfod hwn, rydym yn bwriadu rhannu'r arfarniad opsiynau llawn yr ydym wedi'i gynnal gyda Llywodraeth Cymru ac i ofyn am ei chaniatâd i lunio achos busnes llawn ar gyfer y cynllun a ffefrir gennym ni.
Mae prif elfennau'r opsiynau newydd, yn cynnwys:
Dywedodd Dr Chris Stockport, cyfarwyddwr gweithredol trawsnewid a chynllunio strategol a'n huwch swyddog cyfrifol ar gyfer y datblygiad: "Gwnaed llawer o waith i gyrraedd y cam hwn ac rydw i wir yn credu ein bod ni wedi dod o hyd i'r datrysiadau mwyaf fforddiadwy, a fydd yn cynnig gofal sy'n well o lawer mewn amgylchedd sy'n addas at ei ddiben.
"Er mai dechrau'r broses yw hon, rydw i'n teimlo'n hyderus ein bod wedi datblygu syniad cyraeddadwy ar gyfer pobl Gogledd Sir Ddinbych a rhywbeth a gaiff ei werthfawrogi fel ased go iawn i'r gymuned.
"Gan weithio gyda'n partneriaid yng Nghyngor Sir Ddinbych ac yn y Trydydd Sector, rydym yn credu y bydd y cynigion hyn yn cyflwyno gofal gwell, yn agosach at y cartref ac yn helpu i leddfu rhywfaint o'r pwysau y mae Ysbyty Glan Clwyd yn ei wynebu."