Mae gwaith yn mynd rhagddo ar ailddatblygiad gwerth £1.3m yn lleoliad Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Amlasiantaethol Craig Hyfryd yng Nghaergybi ar Ynys Môn.
Bydd yr adeilad newydd yn dod ag ystod o sefydliadau ynghyd dan un to i roi cefnogaeth ddi-dor i bobl sydd â phroblemau cyffuriau, alcohol ac iechyd meddwl.
Wedi'i leoli yng nghanol Caergybi, gyda mynediad da drwy gludiant cyhoeddus, bydd y cyfleuster newydd yn caniatáu defnyddwyr gwasanaeth i gael mynediad at ystod o wasanaethau cofleidiol yn haws, a hwyluso gwaith ar y cyd rhwng sefydliadau yn cynnwys ein gwasanaeth camddefnyddio sylweddau, tîm iechyd meddwl cymuned, CAIS, gwasanaeth prawf, gwasanaethau cyflogaeth a darparwyr y trydydd sector.
Bydd adeilad estynedig Craig Hyfryd yn fwy therapiwtig ac yn darparu mwy o le yn y swyddfeydd, gan ganiatau dull amlasiantaethol gwell i ddarparu gofal a chefnogaeth mewn amgylchedd modern, addas i bwrpas a therapiwtig.
Mae gwaith adeiladu wedi ailddechrau ar ôl yr oedi a achoswyd gan y pandemig COVID-19.