Neidio i'r prif gynnwy

Dementia: Manteisio ar y cymorth cywir, ar yr adeg gywir: Llwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru

Ydych chi'n poeni am eich cof? Nid chi yw'r unig un.

Amcangyfrifir bod 11,900 o bobl yn byw gyda dementia yng Ngogledd Cymru, a bod rhyw 67,000 o ofalwyr di-dâl yn rhoi cymorth i anwyliaid, yn ôl Cyfrifiad 2021. Mae Gwasanaeth Cymorth Cof Gogledd Cymru yn cynnig cymorth wedi'i deilwra i bobl y mae dementia yn effeithio arnynt. Mae hyn yn cynnwys unigolion sy'n pryderu ynghylch materion sy'n effeithio ar y cof, y rhai sy'n byw gyda dementia gartref neu yn yr ysbyty, a'u ffrindiau a'u teuluoedd.

Gwnaeth y gwasanaeth roi cymorth i 4,700 o bobl yn ystod 2023/24, dros 1,200 yn fwy o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae cymorth ar gael ar bob cam o'r daith ddementia - cyn, yn ystod, ac ar ôl diagnosis. Mae cydweithio rhwng y chwe awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cymdeithas Alzheimer's, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru, Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr, a NEWCIS yn sicrhau bod cyngor ac arweiniad yn cael eu personoli i ddiwallu anghenion unigol.

Gallwch gael cymorth drwy ymweld neu gysylltu ag un o chwe Chanolfan Dementia. Mae un ym mhob sir yng Ngogledd Cymru. Fe'u lleolir yn Llangefni, Bangor, Bae Colwyn, Dinbych, Treffynnon a Wrecsam. Nid oes angen atgyfeiriad gan feddyg teulu neu weithiwr proffesiynol, er y gall gweithwyr proffesiynol hefyd gysylltu ar ran yr unigolyn.

Y rhif ffôn i gysylltu ag unrhyw ganolfan dementia yng Ngogledd Cymru yw: 01492 542212 . Gallwch ffonio o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm.

Y cyfeiriad e-bost yw NWmemorysupport@ctnw.org.uk

Mae’r Canolfannau Dementia yn darparu:

  • Gwybodaeth a chyngor
  • Gweithgareddau a Dal i Fyny
  • Cefnogaeth emosiynol a chyfoedion
  • Siaradwyr gwadd a chlinigau iechyd

Mae hwn yn un o lawer o wasanaethau a ariennir gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (RPB) , sy'n cefnogi cyflwyno amrywiaeth o fentrau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer pobl a chymunedau ar draws y rhanbarth.