Mae Gwasanaeth Atal ac Ymyrraeth Gynnar (EIPS) CAMHS y Gorllewin yn dîm amlddisgyblaethol gydag ystod o gefndiroedd proffesiynol yn amrywio o; Gweithwyr Cymdeithasol, Nyrsys Iechyd Meddwl a Therapyddion Galwedigaethol sydd à set eang o sgiliau. Gan weithio mewn partneriaeth agos â chymunedau, ysgolion a lleoliadau teulu, rydym yn helpu i nodi pryderon iechyd meddwl sy’n dod i’r amlwg ymhlith plant a phobl ifanc ac yn cefnogi’r system o amgylch y plentyn / unigolyn ifanc i ymateb i’r anawsterau hynny sy’n dod i’r amlwg cyn gynted â phosibl er mwyn atal datblygiad pellach neu waethygiad.
Nod y Gwasanaeth Atal ac Ymyrraeth Gynnar yw:
- codi ymwybyddiaeth a gwella gwybodaeth am iechyd meddwl plant, a sut i ddylanwadu a meithrin gwytnwch.
- darparu cyngor, arweiniad a chefnogaeth i’r rhai sy’n rhan o system y plentyn.
- cefnogi’r rhai sy’n gweithio o amgylch y plentyn i ddatblygu sgiliau ac ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i hybu iechyd meddwl a chanlyniadau cadarnhaol.
Ymgynghoriad Proffesiynol
- Model ymyrraeth gynnar byr â therfyn amser, yn seiliedig ar dystiolaeth.
- Ymgynghori â'r cyfeiriwr i ddechrau, i sefydlu fformiwleiddiad seicolegol o'r anawsterau a phenderfynu ar y ffordd fwyaf priodol i gefnogi'r unigolyn ifanc.
- Lle bo angen, gall adolygiadau dilynol gynnwys pobl eraill o fewn y system o amgylch yr unigolyn ifanc, gan gynnwys rhieni/gwarcheidwaid.
- Yn gyffredinol, nid yw EIPS yn darparu ymyrraeth uniongyrchol gyda'r unigolyn ifanc; fodd bynnag gallant gefnogi gwaith uniongyrchol gydag asiantaethau cyfeirio, rhieni/gwarcheidwaid i helpu i ddatblygu sgiliau a strategaethau i wella lles emosiynol.
Hybiau Ysgol ym mhob Ysgol Uwchradd yng Ngwynedd
- Er mwyn nodi anawsterau iechyd meddwl sy'n dod i'r amlwg, cyfeirio a darparu ymyrraeth gynnar yn amgylchedd yr ysgol.
- Codi ymwybyddiaeth a gwella gwybodaeth am Iechyd Meddwl Plant; sut i ddylanwadu a meithrin gwytnwch. Hyrwyddo lles meddyliol o fewn y system addysg a diwylliant.
- Datblygu systemau cymorth trwy atgyfnerthu sgiliau ac arbenigedd presennol o fewn amgylchedd yr ysgol i hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol i bobl ifanc.
Hyfforddiant a Sgiliau
- Darparu addysg a datblygiad gwybodaeth ar gyfer staff rheng flaen yn unol â Chanllawiau NICE
- Rhaglenni hyfforddiant aml-asiantaeth i’r holl weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant.
- Cynyddu ac adeiladu ar y ddealltwriaeth o faterion iechyd meddwl a helpu i ddatblygu strategaethau ar gyfer y rhai o fewn system y plentyn i ymateb i’r anghenion a nodwyd, gan gydnabod mai'r rhai y mae'n eu hadnabod orau sy'n gallu bodloni anghenion y plentyn orau.
- Helpu i atgyfnerthu'r wybodaeth bresennol drwy ddysgu drwy brofiad.