Mae'r dudalen hon yn cael ei datblygu
Mae hwn yn wasanaeth ar gyfer pobl ifanc sy'n sâl iawn ag anhwylder bwyta neu sydd wedi cael diagnosis o anorecsia nerfosa. Efallai y bydd eich Tîm CAMHS lleol yn eich cyfeirio at y tîm SpeED os ydynt yn teimlo mai dyma sydd ei angen arnoch.
Byddwch chi a'ch teulu/gofalwyr wedyn yn cael eich gwahodd am asesiad gan y Tîm SpeED. Cynhelir asesiadau SpeED yng Ngwasanaeth Pobl Ifanc Gogledd Cymru, sydd wedi'i leoli ar dir Ysbyty Abergele.
Beth i'w ddisgwyl pan fyddaf yn cyrraedd
Byddwch yn cyrraedd y gwasanaeth sydd wedi'i leoli yng nghefn yr adeilad trwy ddilyn yr arwyddion i'ch helpu i gyrraedd y lle iawn. Ar ôl cyrraedd mae intercom i'w ddefnyddio a bydd yr ysgrifennydd yn eich gwahodd i'r ardal aros. Yn fuan wedyn, bydd aelod o’r tîm yn eich cyfarch chi a’ch teulu/gofalwyr ac yn mynd â chi i ystafell asesu. Unwaith y byddwch yn yr ystafell asesu, byddwch chi a'ch teulu/gofalwyr yn cael set o holiaduron i'w llenwi a fydd yn ein helpu i ddod i'ch adnabod yn well cyn yr asesiad.
Beth i'w ddisgwyl yn ystod yr asesiad
Bydd yr asesiad yn cynnwys nifer o weithwyr proffesiynol ond efallai na fyddwch yn cwrdd â phob un yn yr apwyntiad asesu. Gall y rhain fod yn:
Cynrychiolwyr eich tîm SpeED lleol
Bydd y cyfweliad clinigol yn cael ei gynnal i ddysgu mwy amdanoch chi a'ch teulu/gofalwyr. Byddwn hefyd yn siarad am ffrindiau, ysgolion, diddordebau, hobïau a digwyddiadau bywyd i'n helpu ni i'ch deall yn well. Ar ôl hyn, bydd yr ymarferydd meddygol yn mynd â chi i ofod ar wahân i wneud gwiriad iechyd corfforol lle byddwn yn cynnal profion arferol fel pwysedd gwaed ac yn gofyn cwestiynau am eich iechyd corfforol.
Rydym yn deall y gall asesiadau fod yn amser brawychus ac mae croeso i chi ddod ag unrhyw wrthrychau tynnu sylw gyda chi.
Bydd yr asesiad yn para nifer o oriau, fel arfer rhwng 9:15am a 2:30pm, felly rydym yn eich cynghori i ddod â chinio gyda chi.
Mae'r asesiad yn cymryd amser, gan ei fod yn ein helpu i gasglu cymaint o wybodaeth â phosibl i ddeall eich sefyllfa a rhoi cynllun gofal i chi i'ch helpu gyda chamau nesaf eich triniaeth. Gall hyn gynnwys cael eich cyfeirio at y therapi a'r cymorth lleol sydd ar gael. Bydd y rhain yn cynnwys gofal parhaus gan y Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta CAMHS cymunedol neu Dîm CAMHS lleol.
Cymerwch olwg ar y daith fideo o ble rydym yn cynnal ein hasesiadau SpeED:
Ffôn: 03000855299 (Ysgrifennydd SpeED)
Gwasanaeth Pobl Ifanc Gogledd Cymru
Ffordd Llanfair
Ysbyty Abergele
Abergele
Conwy
LL22 8DP