Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Lles Teuluoedd

Nod y gwasanaeth yw grymuso plant, pobl ifanc a'u teuluoedd i nodi ac adeiladu ar eu cryfderau presennol drwy eu cefnogi i archwilio amrywiaeth o ffyrdd posibl o hybu eu lles.

Pwy fyddwch yn eu gweld?

Yn gyntaf byddwch yn gweld y Meddyg Teulu a bydd yn eich cyfeirio at Ymarferydd Lles Teuluoedd (FWP) yn eich meddygfa leol. Mae’r FWP yn Uwch Ymarferydd Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc.​

Y Broses Gyfeirio

Dim ond cyfeiriadau gan y Practis Meddyg Teulu a phractisau eraill yn yr ardal y mae’r FWP yn eu derbyn. Unwaith y byddwn wedi derbyn y cyfeiriad, ein nod yw cysylltu â chi o fewn 14 diwrnod, a byddwn yn cysylltu dros y ffôn i ddechrau.  Gallwn gynnig hyd at bedair sesiwn dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu gyfarfod yn ysgol y plentyn.

Gall yr Ymarferydd Lles Teuluoedd nodi’r canlynol:

  • Beth yw'r broblem?
  • Sut y gallant helpu?
  • Beth allwch chi ei wneud i helpu eich hun?
  • Ble gallwch chi gael cymorth a chefnogaeth?

Sut gall y gwasanaeth hwn fy helpu?

Yn ystod y drafodaeth gychwynnol, os oes angen cwrdd wyneb yn wyneb, byddwn yn trefnu'r apwyntiad hwnnw gyda chi dros y ffôn. Bydd apwyntiadau bob amser yn cael eu cynnal yn eich meddygfa, mewn ystafell meddyg. Nid oes angen i chi ddod ag unrhyw beth i’r apwyntiadau. Ewch i’r brif dderbynfa ac arhoswch yn ystafell aros y feddygfa.

Dewch ag unrhyw beth gyda chi a allai wneud i chi deimlo'n fwy cyfforddus wrth aros ac yn ystod yr apwyntiad.

Beth ydym ni'n ei wneud?

Gallwn eich cefnogi gyda materion lles emosiynol fel gorbryder a hwyliau isel.

Gall y gwasanaeth roi rhywun sydd â’r wybodaeth a’r profiad cywir i wrando arnoch chi fel teulu a helpu i wneud synnwyr o’r anawsterau rydych chi’n eu profi a chynnig arweiniad a chyngor ar sut y gallwch chi helpu eich hun. Gall hefyd rannu gwasanaethau â chi a all gynnig mwy o gymorth.

Gall yr Ymarferydd Lles Teuluoedd hefyd eich cyfeirio at CAMHS