Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw Adran Iechyd Meddwl a sut brofiad fydd hyn i mi?

Mae'n annhebygol iawn, iawn ac yn anghyffredin i blant gael eu rhoi ar adran iechyd meddwl ac rydym yn gwybod y gall meddwl am gael cymorth fod yn bryderus. Hyd yn oed os byddwn yn gofyn i chi aros yn yr ysbyty, nid yw’n golygu ein bod yn defnyddio’r Ddeddf Iechyd Meddwl mewn unrhyw ffordd.​

Defnyddir y Ddeddf Iechyd Meddwl i sicrhau diogelwch pan nad yw unigolyn ifanc yn cytuno â’i ofal a’i driniaeth ond daw'r canlyniadau gorau pan fydd pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol yn cydweithio. O fewn y ddeddf iechyd meddwl mae llawer o adrannau gwahanol y gellir eu defnyddio. Mae'r rhain yn darparu fframweithiau cyfreithiol i alluogi gweithwyr proffesiynol i ddod â chi a'ch cadw mewn man diogel er mwyn asesu eich anghenion iechyd meddwl ac o bosibl ar gyfer triniaeth. Am ragor o wybodaeth defnyddiwch y ddolen ganlynol:

https://nccu.nhs.wales/mhs/mha/easy-read-leaflets/