Byddwn yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn cynnig o leiaf un apwyntiad dilynol i chi adolygu eich cynllun lles emosiynol a diogelwch. Byddem hefyd yn ystyried pa rwydweithiau cymorth sydd ar gael i chi, pa gyfeiriadau at wasanaethau eraill a allai fod o gymorth. Mae Gofal Heb ei Drefnu yn wasanaeth ymyrraeth tymor byr ac felly os yw unrhyw ymyriad tymor hwy yn rhywbeth y byddech yn elwa ohono, byddem yn eich cyfeirio at y tîm CAMHS cymunedol lleol.
Rydym yn deall y gall yr Adran Achosion Brys a chwrdd â phobl newydd fod yn amser brawychus ac mae croeso i chi ddod ag unrhyw wrthrychau sy'n tynnu eich sylw gyda chi os ydych yn credu y gallant eich helpu i deimlo'n fwy cyfforddus. Gall yr Adran Achosion Brys fod yn brysur ac efallai y byddwch yno am nifer o oriau felly rydym yn eich cynghori i ddod â rhywbeth i'w fwyta ac yfed neu ychydig o arian gyda chi. Rydym yn gweithio'n galed iawn i'ch gweld chi ar yr un diwrnod ond weithiau nid yw hyn yn bosibl felly gallai dod â bag dros nos fod o gymorth i chi.