Neidio i'r prif gynnwy

Beth os oes rhaid i mi aros yn yr ysbyty?

Efallai y byddwn yn gofyn i chi aros yn yr ysbyty ar adegau fel y gallwn gael ychydig mwy o amser i weithio gyda chi a'ch teulu/gofalwyr i feddwl am y ffordd orau i ni eich cefnogi. Byddwch yn cael eich gweld gan dîm meddygol y ward ochr yn ochr â Gwasanaeth Gofal Heb ei Drefnu CAMHS.

Gallwch ofyn i'ch rhiant/gofalwr aros gyda chi tra byddwch yn yr ysbyty os ydych am iddynt wneud hynny. Tra byddwch yn yr ysbyty gallwch ddod â dyfeisiau technoleg fel ffonau i mewn ond gofynnwn ichi ddod â chlustffonau fel nad ydych yn tarfu ar blant eraill ar y ward. Os byddwch yn dod â'ch ffôn, ni allwch dynnu lluniau neu fideos o eiddo ysbyty neu bobl eraill gan fod angen i ni amddiffyn pawb arall ar y ward. Tra byddwch yn yr ysbyty, darperir prydau a diodydd i gleifion o'n bwydlenni penodol, fodd bynnag, gellir darparu ar gyfer gofynion dietegol ac alergeddau hefyd.