Neidio i'r prif gynnwy

Treial clinigol Norofeirws

Lansio treial cyntaf erioed y DU ar gyfer y brechlyn mRNA norofeirws yng Nghymru 

Helpwch i weld a allwn warchod pobl rhag symptomau a achosir gan y byg stumog norofeirws gyda brechlyn MRNA ymchwiliol. 

 

Mae Cyfleuster Ymchwil Clinigol Gogledd Cymru yn chwilio am gyfranogwyr ar gyfer Treial Nova 301. Bydd y treial hwn yn gweld a all brechlyn ymchwiliol warchod pobl 18 oed neu'n hŷn rhag symptomau a achosir gan y byg stumog norofeirws. 

  

Ynglŷn â'r byg stumog norofirws 

Norofeirws yw un o'r bygiau stumog mwyaf cyffredin yn y DU. Gall ledaenu'n hawdd ac mae'r rhan fwyaf o achosion yn aml mewn cartrefi gofal ac ysgolion. Gall y byg stumog norofeirws achosi llawer o symptomau annymunol fel cyfog, chwydu, a dolur rhydd. 

  

Treial Nova 301 

Bydd Treial Nova 301 yn gweld a allai brechlyn ymchwiliol (brechlyn sy'n cael ei astudio) atal symptomau a achosir gan y byg stumog norofeirws rhag datblygu mewn pobl 18 oed neu'n hŷn. Gelwir y brechlyn ymchwiliol yn y treial clinigol hwn yn mRNA-1403. 

  

Pwy sy'n gallu ymuno? 

Mae'r treial clinigol hwn yn chwilio am gyfranogwyr. I ymuno, mae'n rhaid i chi fod: 

  • yn 60 oed neu'n hŷn 
  • mewn iechyd da 
  • heb glefyd gastroberfeddol cronig ar hyn o bryd (gan gynnwys syndrom coluddyn llidus, colitis, adlif oesoffagaidd, nac unrhyw gyflwr meddygol arall lle rydych yn chwydu neu â dolur rhydd yn rheolaidd) 

  

Beth i'w ddisgwyl 

Bydd eich cyfranogiad yn y treial Nova 301 yn para hyd at 25 mis. 

  • Byddwch yn mynd i ymweliad sgrinio cychwynnol, yn cael hyd at 6 ymweliad clinig ychwanegol a hyd at 6 galwad ffôn wedi'u trefnu gyda'r tîm treialon clinigol. 
  • Byddwch yn cael 1 pigiad, a fydd naill ai:  
  • Yn frechlyn MRNA-1403 norofeirws ymchwiliol; NEU   
  • Pigiad plasebo (sylwedd anweithredol) 
  • Rhaid i chi lenwi dyddiadur electronig (eDdyddiadur) yn rheolaidd yn ystod eich cyfranogiad 
  • Eich dewis chi yn llwyr yw cofrestru ar gyfer y treial clinigol hwn. Gallwch adael ar unrhyw adeg ac nid oes rhaid i chi roi rheswm 

  

Bydd Moderna yn ad-dalu cyfranogwyr am eu hamser a'u treuliau sy'n gysylltiedig â’r treial (er enghraifft, teithio), ac mae'r tîm treialon clinigol wrth law i gefnogi pawb sy'n cymryd rhan yn y treial.  

  

Nid yw clefydau yn gwahaniaethu — ac ni ddylai treialon clinigol ychwaith. 

Mae Moderna wedi ymrwymo i ymchwilio i frechlynnau a therapïau sy'n seiliedig ar mRNA i ddod â gwell iechyd a bywoliaeth i bobl o bob oed, rhyw a chefndir. 

  

Cysylltwch â'r tîm treialon clinigol heddiw 

Ffoniwch 03000 847547 neu ebostiwch BCU.NWCRFParticipant@wales.nhs.uk. ewch i wefan www.nova301trialuk.com i darganfod fwy amdan ymuno ar treial Nova 301