Neidio i'r prif gynnwy

Stori Andrew Forshaw

“Mae wedi rhoi bywyd newydd i mi. Byddwn yn annog unrhyw un i gymryd rhan mewn treialon clinigol”

Mae Andrew Forshaw wedi diolch i'w dîm gofal iechyd am y cyfle i fod yn rhan o driniaeth Lymffoma Ffoliglaidd y dyfodol.

Pan ddechreuodd Andrew ar ei driniaeth yn 2020, cafodd gynnig cymryd rhan mewn treialon ymchwil o'r enw “PETREA: Gwerthusiad Cam 3 o Therapi Ymateb wedi’i Addasu dan arweiniad PET mewn cleifion â lymffoma ffoliglaidd baich tiwmor uchel sydd heb ei drin yn flaenorol",

Mae’r astudiaeth yn ymchwilio i driniaethau ar gyfer cleifion â lymffoma ffoliglaidd, yn eu cymharu, ac yn cofnodi'r effaith seicolegol roedden nhw’n eu cael ar gleifion.

Dywedodd Andrew: “Doeddwn i ddim yn gwybod beth fyddai’r canlyniad i mi pan gynigiodd tîm y treial clinigol gyfle i mi gymryd rhan, felly cymerais amser i feddwl am fy mhenderfyniad”.

“Roedd cael cynnig fy nghynnwys yn y treial yn syndod ar y dechrau, doeddwn i ddim yn siŵr beth fyddai’n ei olygu i mi. Ond, doedd dim angen i mi fod wedi poeni gan fy mod wedi derbyn gofal da iawn o ran fy nhriniaeth. I bob pwrpas, yr unig beth roedd rhaid i mi ei wneud oedd llenwi holiadur amlddewis bob tro roeddwn i'n cael fy nhriniaeth cemotherapi. Doedd dim i boeni amdano mewn gwirionedd”.

“Doeddwn i ddim yn gwybod beth fyddai canlyniad fy nhriniaeth, ond fe feddyliais i y gallwn i helpu pobl eraill sy’n mynd trwy sefyllfa debyg.”

Dechreuodd Andrew chwe thriniaeth cemotherapi bob wyth wythnos yn Uned Seren Wib, Ysbyty Maelor Wrecsam. Nod y treial oedd deall sut roedd y cyffuriau'n effeithio ar gleifion ar wahanol gamau eu triniaeth.

Cafodd Andrew Sgan PET ar ddiwedd ei driniaeth; ac yna cafodd canlyniadau’r sgan eu rhoi ar hap i un o bedair cangen o driniaeth. O ganlyniad, cafodd Andrew ei ddewis ar hap i barhau â 12 cylch arall o gemotherapi a chafodd sgan arall i asesu'r canlyniad.

Roedd triniaeth Andrew yn llwyddiannus ac ar hyn o bryd, mae’n rhydd o ganser. Bydd yn parhau i weld ei oncolegydd Dr De Soysa â’r tîm ymchwil am archwiliadau bob chwe mis tan 2029.

Ychwanegodd Andrew: “Rwy’n falch iawn bod fy nhriniaeth wedi bod yn llwyddiannus, a chefais ofal da gan Dr De Soysa a’r holl staff ar Ward Seren Wib.

“Rwy’n teimlo'n falch iawn ac yn freintiedig fy mod wedi cael cymryd rhan. Mae'r GIG wedi gofalu amdanaf i’n dda, ni allaf eu canmol ddigon. Mae wedi rhoi golwg newydd i mi ar fy mywyd. Byddwn yn annog pobl eraill i gymryd rhan mewn treialon clinigol pe bai’r cyfle'n codi. Bydd yn fanteisiol i chi ac i eraill sydd â’r un cyflwr yn y blynyddoedd i ddod.

“Fe hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r tîm anhygoel ar Ward Seren Wib am eu gofal a’u cefnogaeth eithriadol yn ystod fy amser yn cael fy nhriniaeth cemotherapi.

“Hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu hymroddiad a’u tosturi. Fe wnaeth fy siwrnai anodd yn haws ei oddef, a byddaf yn ddiolchgar am byth.

“Hoffwn ddiolch yn bersonol i Dr De Soysa am ei hymroddiad, ei gofal a’i gallu i’m llywio at adferiad llwyddiannus, sydd i gyd wedi rhoi bywyd newydd i mi, yn ogystal â holl dîm y treialon clinigol sy’n cefnogi Dr De Soysa.

"Wrth edrych yn ôl, efallai na fyddai unrhyw un o'm triniaethau wedi bod mor llwyddiannus hebddyn nhw. Fe fydd gen i ddyled am byth i dîm Seren Wib a’r GIG sy'n sefydliad gofalgar ac un sy’n ymroddedig i drin ei gleifion yn llwyddiannus. Diolch o galon i chi gyd.”

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am Ymchwil a Datblygu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yma.