Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau i helpu gwella’ch sgiliau a’ch gwybodaeth am faetheg, bwyta’n iach, coginio ymarferol, a chyllidebu wrth brynu bwyd. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant bwyd a maetheg i weithwyr cymunedol i’w galluogi i gynnal y cyrsiau hyn gyda’u grwpiau eu hunain.
Mae’r cyrsiau’n hwyl ac yn rhyngweithiol â’r opsiwn o ennill cymhwyster ffurfiol ar gyfer rhai o’r cyrsiau isod. I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael yn eich ardal leol, cysylltwch â’r Tîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd.
Cwrs hamddenol a chyfeillgar i hybu hyder, gwybodaeth a sgiliau pobl wrth baratoi prydau diogel, iachus a fforddiadwy i’w hunain a’u teuluoedd gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau coginio.
Cwrs a gyflwynir mewn ysgolion cynradd i helpu rhieni/gofalwyr/neiniau a theidiau a phlant 4-5 oed i ddysgu am fwyta’n dda a pharatoi prydau iachus yn eu cartrefi. Mae’r cwrs hwn yn cynnwys coginio ymarferol a gweithgareddau dysgu llawn hwyl i blant ac oedolion.
Cwrs rhyngweithiol byr sy’n dysgu gwybodaeth faeth sylfaenol mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar. Yn addas ar gyfer y rhai sydd eisiau ennill mwy o wybodaeth am y pwnc. Nid yw’r cwrs hwn yn cynnwys coginio ymarferol.
Rhaglen strwythuredig wyth wythnos yn darparu sgiliau a strategaethau i gefnogi oedolion sydd eisiau colli pwysau. Yn addas ar gyfer y rhai sydd â Mynegai Más y Corff (BMI) o 25-35kg/m2.
Cwrs byr sy’n addas ar gyfer unrhyw un sydd am elwa o wella eu sgiliau coginio ymarferol a dysgu mwy am fwyta’n iach mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar.
Sesiwn un awr o hyd yn archwilio ffyrdd o fwyta’n iach, defnyddio cynhwysion cwpwrdd storio a rhannu awgrymiadau ar gyfer arbed arian wrth siopa bwyd.