Canfod awtogwrthgyrff mewn gwaed cleifion sy’n cael eu cyfeirio yn erbyn meinwe’r claf ei hun, sy’n edrych yn normal. Gall hyn arwain at glefydau a all fod yn benodol i organ megis gwrthgyrff thyroid mewn clefyd thyroid awtoimiwnedd neu wrthgyrff systemig, a welir mewn cleifion gyda chlefydau meinwe cysylltiol megis Erythematosis Lwpws Systemig neu Syndrom Sjogren. Defnyddir amryfal dechnoleg i ganfod y gwrthgyrff hyn.
Bydd profion fel arfer yn cymryd tuag wythnos i’w cwblhau, ond gall achosion mwy cymhleth gymryd sawl wythnos i adnabod neu eithrio gwrthgyrff prin. Rhaid dehongli profion awtoimiwnedd yng ngoleuni darganfyddiadau clinigol.