Mae'r dudalen hon yn cael ei datblygu.
Mae sgrinio cynenedigol yn offeryn gwerthfawr yn ystod beichiogrwydd er mwyn sicrhau lles eich babi yn y groth.
Fel rhan o’ch gofal cynenedigol, bydd eich bydwraig gymunedol yn rhoi gwybodaeth i chi am Sgrinio Cynenedigol Cymru. Eich dewis chi yw cael sgrinio cynenedigol ai peidio. Mae’n bwysig eich bod yn deall y profion a gynigir a’r effaith bosibl y gallent eu cael ar eich beichiogrwydd os yw canlyniad anarferol neu bositif yn cael ei ganfod.
Mae sgrinio cynenedigol yn cynnwys profion gwaed a sganiau uwchsain. Gellir dod o hyd i wybodaeth gyfredol am ddewisiadau sgrinio cynenedigol ar Wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – Sgrinio Cynenedigol.
Bydd eich bydwraig gymunedol hefyd yn eich arwain chi drwy’r dewisiadau sgrinio sydd ar gael. Os fyddwch chi’n cydsynio i brofion sgrinio cynenedigol, bydd eich bydwraig gymunedol yn trafod y canlyniadau gyda chi fel rhan o ofal cynenedigol arferol. Os fyddwch chi angen gwybodaeth neu gymorth ychwanegol, mae gan eich ysbyty lleol dîm sgrinio arbenigol. Siaradwch â’ch bydwraig gymunedol a all roi manylion cyswllt i chi ar gyfer y tîm sgrinio arbenigol.
Am wybodaeth bellach am y profion sgrinio penodol a gynigir yn ystod beichiogrwydd, gweler y dolenni isod: