Mae Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru (NHSWLKS) (AWHILES gynt) yn bartneriaeth o lyfrgelloedd iechyd GIG Cymru a Phrifysgol Caerdydd sy'n darparu gwybodaeth iechyd i gefnogi gofal cleifion, addysg, hyfforddiant ac ymchwil i staff GIG Cymru, a staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd sydd ar leoliad. Gallwch ymweld â'r wefan NHSWLKS i ganfod mwy.
Llwyddiant pennaf y gwasanaeth hwn yw mai dyma'r unig gatalog undeb cenedlaethol o adnoddau iechyd yn y Deyrnas Unedig. Mae catalog LibrarySearch, sy'n cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd (PC), yn cynnwys holl ddaliadau 22 Llyfrgell GIG Cymru a llyfrgelloedd iechyd PC. Mae Llyfrgelloedd BIPBC yn rhan o NHSWLKS ac mae hyn yn ein galluogi i gael llyfrau ac erthyglau cyfnodolion o unrhyw un o'r llyfrgelloedd hyn er budd ein defnyddwyr.
Mae NHSWLKS hefyd yn fforwm i aelodau rannu gwybodaeth, datblygu staff llyfrgelloedd a rhwydweithio. Mae'r aelodau wedi ymrwymo i wella safon Llyfrgelloedd Iechyd trwy achrediad, safonau a chanllawiau.
Cefnogir NHSWLKS gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Mae mwy o wybodaeth am ddatblygiad strategol NHSWLKS a rhestr o'r holl lyfrgelloedd perthnasol ar wefan Addysg a Gwella Iechyd Cymru