Mae gan y GIG yng Nghymru Drwydded Hawlfraint a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint (Copyright Licensing Agency - CLA), sy'n caniatáu i staff y GIG wneud copïau papur neu ddigidol o wybodaeth o'r mwyafrif o lyfrau a chyfnodolion.
Gallwch lungopïo, sganio neu gopïo cynnwys digidol a'i rannu gyda chydweithwyr mewn cyfarfodydd, sesiynau briffio, sesiynau hyfforddi mewnol, clybiau cyfnodolion, at ddibenion ymchwil a datblygu, ac mewn perthynas â salwch, cyflwr neu driniaeth claf.
Mae Trwydded Hawlfraint GIG Cymru yn caniatáu ichi wneud copi o hyd at 2 erthygl o rifyn cyfnodolyn, un bennod o lyfr neu 5% o gyfanswm y cyhoeddiad, p'un bynnag sydd fwyaf.
Ewch i wefan y CLA i gael mwy o wybodaeth am Y drwydded CLA yng Nghymru.
Os oedd angen cyngor arnoch ar hawlfraint yn GIG Cymru, cysylltwch ag aelod o staff y llyfrgell.