Neidio i'r prif gynnwy

Llawfeddygaeth Fasgiwlar

Mae llawfeddygaeth fasgwlar yn arbenigedd sy’n canolbwyntio ar ddiagnosis a thriniaeth lawfeddygol ar gyfer anhwylderau ar y gwythiennau, ac eithrio’r galon, ysgyfaint ac ymennydd.

Mae’r Gwasanaeth Llawfeddygaeth Fasgwlar yn darparu triniaethau brys a dewisol i gleifion â chyflyrau ar y system fasgwlar. Ymhlith y cyflyrau yma mae achosion brys sy’n peryglu bywyd fel dyrannu ymlediad aortig (rhydweli sy’n ymledu neu’n chwyddo oherwydd pwysau’r gwaed sy’n llifo drwyddi) a chyflyrau sydd ddim mor ddifrifol fel gwythiennau faricos.  

Bellach, gellir trin llawer o gyflyrau fasgwlar mewn ffyrdd llai ymwthiol, yn defnyddio radioleg ymyriadol. Mae llawdriniaethau yn dal yn angenrheidiol ar gyfer y cyflyrau mwy cymhleth.

Meddygon teulu sy'n cyfeirio cleifion at y gwasanaeth fasgwlar.