Mae’r holl wasanaethau galw i mewn/galw heibio wedi eu hatal dros dro ar hyn o bryd ac mae angen ymgynghoriad dros y ffôn ar bob defnyddiwr cyn mynychu’r clinig. Cysylltwch â’r gwasanaeth am wybodaeth bellach os gwelwch yn dda.
Oherwydd amgylchiadau annisgwyl bydd y Gwasanaeth Iechyd Rhywiol ar gau ddydd Iau 29 Chwefror 2024
HIV:
Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi dod i gysylltiad â HIV drwy gael rhyw yn ystod y 72 awr ddiwethaf, mae triniaeth ar gael i geisio atal HIV ar ôl i'r feirws ddod i'r corff. Ewch i'ch Adran Achosion Brys agosaf os oes angen y driniaeth hon arnoch chi.
Atal Cenhedlu Brys:
Mae dulliau atal cenhedlu brys ar gael i chi yn eich meddygfa, eich fferyllfa leol neu'r Adran Achosion Brys agosaf.
Llinell apwyntiadau - 03000 856 000 (Llun i - Iau 9.00am - 3.00pm a Gwener 9.00am - 1.00pm)
Sylwch nad oes gennym bellach sesiynau galw heibio, bydd angen i chi wneud apwyntiad i gael eich gweld yn y clinig.
Nid oes angen i’ch Meddyg Teulu eich cyfeirio chi ar gyfer gofal, ac nid oes angen i chi fyw’n lleol chwaith.
Nid oes modd i ni weld pobl gyda symptomau yn ein clinigau cymunedol. Os oes gennych symptomau/problem gorfforol, mae angen i chi fynychu clinig yn Ysbyty Glan Clwyd am asesiad llawn.
Dylai cleifion sydd angen gwasanaethau atal cenhedlu neu HIV alw’r llinell apwyntiadau i gadarnhau y gellir eu gweld yn y clinigau hyn.
Dydd Llun
Amser: 9:50am i 12:30pm a 1:50pm i 6:30pm (apwyntiad yn unig)
Dydd Mawrth
Amser: 9am i 12:30pm a 2pm i 3:30pm (apwyntiad yn unig)
Dydd Mercher
Amser: 9:30am i 12:15pm a 1:15pm i 3pm (apwyntiad yn unig)
Dydd Iau
Amser: 9.30am i 12.30pm a 2pm i 3.30pm (apwyntiad yn unig)
Dydd Gwener
Amser: 9.30am i 12pm (apwyntiad yn unig)
Mae ein gwasanaethau’n cynnwys:
Os ydych wedi defnyddio un o’n gwasanaethau’n ddiweddar ac yr hoffech roi adborth ar eich profiad, cwblhewch ein ffurflen ar-lein.