Neidio i'r prif gynnwy

Gwynedd ac Ynys Môn

Mae’r holl wasanaethau galw i mewn/galw heibio wedi eu hatal dros dro ar hyn o bryd ac mae angen ymgynghoriad dros y ffôn ar bob defnyddiwr cyn mynychu’r clinig. Cysylltwch â’r gwasanaeth am wybodaeth bellach os gwelwch yn dda.

Clinig Cyflym PrEP

Os ydych yn cael PrEP trwy ein gwasanaeth ar hyn o bryd a'ch bod wedi cael cyngor i gwblhau asesiad ar-lein, cwblhewch y ffurflen ar-lein - https://www.smartsurvey.co.uk/s/CRDZXR/

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am PrEP, neu os ydych wedi bod yn cael PrEP gan wasanaeth arall a'ch bod wedi symud i ardal newydd, cysylltwch â'r clinig am apwyntiad.

Ffurflen ymholiad ar-lein 

GMae ffurflen ymholiad ar-lein yma, i ymholiadau sydd ddim am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (GUM), cynllunio teuluol a HIV. Ar gyfer unrhyw ymholiad arall, gweler eich meddyg teulu.

Amserlen Clinigau 

Llinell apwyntiadau - 03000 850074
Llun i Gwener - 9:00am - 3:00pm

Sylwch nad oes gennym bellach sesiynau galw heibio, bydd angen i chi wneud apwyntiad i gael eich gweld yn y clinig. 

Nid oes angen i’ch Meddyg Teulu eich cyfeirio ar gyfer gofal, ac nid oes angen i chi fyw’n lleol chwaith.

Nid oes modd i ni weld pobl gyda symptomau yn ein clinigau cymunedol. Os oes gennych symptomau/problem gorfforol, mae angen i chi fynychu clinig yn Ysbyty Gwynedd am asesiad llawn.

Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi, LL65 2QA

Dydd Gwener
Amser: 1pm i 4pm (apwyntiad yn unig)

Ysbyty Gwynedd, Uned Menai, Bangor, LL57 2PW

Clinig GUM Bangor: gwybodaeth i gleifion newydd

Amser: 1pm i 4pm (apwyntiad yn unig)

Dydd Mercher
Amser: 1pm i 4pm (apwyntiad yn unig)

Dydd Iau – mae clinigau dydd Iau ar gyfer atal cenhedlu yn unig
Amser: 9am i 10am a 1pm i 4pm (apwyntiad yn unig)

Dydd Gwener
Amser: 9:30am i 11:30am (apwyntiad yn unig)

Gwasanaethau Clinigau Iechyd Rhyw

Mae ein gwasanaethau’n cynnwys:

  • Profion STI asymptomatig a symptomatig
  • Condomau
  • Atal Cenhedlu (coil IUCD / IUS - drwy apwyntiad yn unig)
  • Dull atal cenhedlu brys
  • Brechiad Hepatitis B
  • Profion HIV a gofal HIV
  • PEPSE
  • Profion beichiogrwydd
  • Cyfeiriad i derfynu beichiogrwydd
  • Addysg rhyw fwy diogel
  • Cyfeiriad ymosodiad rhywiol
  • Cyngor ar feichiogrwydd heb ei gynllunio

Rhowch eich barn i ni

Os ydych wedi defnyddio un o’n gwasanaethau’n ddiweddar ac yr hoffech roi adborth ar eich  profiad, cwblhewch ein ffurflen ar-lein.