Neidio i'r prif gynnwy

Siroedd Conwy a Dinbych

Mae’r holl wasanaethau galw i mewn/galw heibio wedi eu hatal dros dro ar hyn o bryd ac mae angen ymgynghoriad dros y ffôn ar bob defnyddiwr cyn mynychu’r clinig. Cysylltwch â’r gwasanaeth am wybodaeth bellach os gwelwch yn dda.

Amserlen Clinigau

Oherwydd amgylchiadau annisgwyl bydd y Gwasanaeth Iechyd Rhywiol ar gau ddydd Iau 29 Chwefror 2024

HIV:
Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi dod i gysylltiad â HIV drwy gael rhyw yn ystod y 72 awr ddiwethaf, mae triniaeth ar gael i geisio atal HIV ar ôl i'r feirws ddod i'r corff. Ewch i'ch Adran Achosion Brys agosaf os oes angen y driniaeth hon arnoch chi.

Atal Cenhedlu Brys:
Mae dulliau atal cenhedlu brys ar gael i chi yn eich meddygfa, eich fferyllfa leol neu'r Adran Achosion Brys agosaf.

Llinell apwyntiadau - 03000 856 000 (Llun i - Iau 9.00am - 3.00pm a Gwener 9.00am - 1.00pm)

Sylwch nad oes gennym bellach sesiynau galw heibio, bydd angen i chi wneud apwyntiad i gael eich gweld yn y clinig. 

Nid oes angen i’ch Meddyg Teulu eich cyfeirio chi ar gyfer gofal, ac nid oes angen i chi fyw’n lleol chwaith.

Nid oes modd i ni weld pobl gyda symptomau yn ein clinigau cymunedol. Os oes gennych symptomau/problem gorfforol, mae angen i chi fynychu clinig yn Ysbyty Glan Clwyd am asesiad llawn.

Dylai cleifion sydd angen gwasanaethau atal cenhedlu neu HIV alw’r llinell apwyntiadau i gadarnhau y gellir eu gweld yn y clinigau hyn.

Ysbyty Brenhinol Alexandra, Adran y Cleifion Allanol, 2 Ffordd Alexandra, Rhyl, LL18 3AS

Dydd Llun
Amser: 9:50am i 12:30pm a 1:50pm i 6:30pm (apwyntiad yn unig)

Ysbyty Glan Clwyd, Bloc 13, Lôn Sarn, Bodelwyddan, LL18 5UJ

Dydd Mawrth 
Amser: 9am i 12:30pm a 2pm i 3:30pm (apwyntiad yn unig)

Dydd Mercher
Amser: 9:30am i 12:15pm a 1:15pm i 3pm (apwyntiad yn unig)

Dydd Iau 
Amser: 9.30am i 12.30pm a 2pm i 3.30pm (apwyntiad yn unig) 

Dydd Gwener
Amser: 9.30am i 12pm (apwyntiad yn unig) 

Gwasanaethau Clinigau Iechyd Rhyw

Mae ein gwasanaethau’n cynnwys:

  • Profion STI asymptomatig a symptomatig
  • Condomau
  • Atal cenhedlu (coil IUCD/IUS - drwy apwyntiad yn unig)
  • Dull atal cenhedlu brys
  • Brechiad Hepatitis B
  • Profion HIV a gofal HIV
  • PEPSE
  • Profion beichiogrwydd
  • Cyfeiriad i derfynu beichiogrwydd
  • Addysg rhyw mwy diogel
  • Cyfeiriad ymosodiad rhywiol
  • Cyngor ar feichiogrwydd heb ei gynllunio

Rhowch eich barn i ni

Os ydych wedi defnyddio un o’n gwasanaethau’n ddiweddar ac yr hoffech roi adborth ar eich  profiad, cwblhewch ein ffurflen ar-lein.