Os ydych yn derbyn eich presgripsiwn bob 28 diwrnod fel arfer, gallai hyn gael ei ymestyn i 56 diwrnod yn ystod eich adolygiad nesaf. Gallai hyn olygu casglu eich meddyginiaeth bob deufis.
Bydd hyn yn lleihau nifer y teithiau y mae angen i chi eu gwneud i fferyllfa gymunedol/ meddygfa.
Efallai na fydd rhai cleifion yn addas i newid oherwydd:
Helpwch ni i’ch helpu chi trwy archebu eich presgripsiynau saith diwrnod ymlaen llaw er mwyn caniatáu amser i’ch meddyg teulu a’ch fferyllfa gymunedol ddelio â’r cais.
Gofynnwn i chi barhau i archebu’r hyn sydd arnoch ei angen yn unig gan ddychwelyd unrhyw feddyginiaeth heb ei defnyddio neu nad oes ei hangen at fferyllfeydd cymunedol fel bod modd cael gwared arnynt yn ddiogel. Archebwch eich meddyginiaeth ar-lein neu drwy ap lle bynnag y bo modd.
Darganfyddwch ble gallwch chi gael mwy o feddyginiaeth pan fydd eich cyflenwadau meddyginiaeth wedi dod i ben. Bydd y canllaw hunangymorth hwn yn eich helpu i benderfynu â phwy i gysylltu am ragor o feddyginiaeth. Gallwch ddefnyddio'r canllaw hwn i gael gwybodaeth am feddyginiaeth ar bresgripsiwn. Cyn i chi barhau… Rhaid i hyn fod ar gyfer meddyginiaeth a ragnodir i chi yn rheolaidd trwy bresgripsiwn amlroddadwy. Ni allwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn i gael:
Dylai unrhyw un sy’n ansicr beth i’w wneud gysylltu â’u meddyg teulu neu os na allwch gysylltu â’ch meddyg teulu, ffoniwch 111. Am fwy o wybodaeth ewch i Wefan GIG 111 Cymru |