Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw’r Gwasanaeth UTI?


Mae rhai fferyllfeydd yn cynnig y gwasanaeth UTI. Mae’n golygu bod y fferyllydd yn asesu’ch symptomau, ac yn profi’ch wrin os oes angen i gadarnhau a oes gennych haint.


A fydd angen i mi gael prawf wrin?


Bydd y fferyllydd yn gofyn rhai cwestiynau i chi er mwyn penderfynu a oes angen i chi gael prawf wrin, a bydd yn gwneud asesiad clinigol. Ni fydd angen prawf wrin ar bawb, ac os yw eich atebion yn dangos ei bod yn debygol bod gennych haint, efallai na fydd angen prawf wrin. Os oes angen prawf wrin, bydd angen i chi aros ychydig funudau i gael eich canlyniad.


I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth, ewch ir wefan GIG111 Cymru.