Mae fferyllfeydd ledled Gogledd Cymru yn cynnig Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin.
Beth yw'r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin?
Mae'r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin yn cynnig ymgynghoriad am ddim gyda fferyllydd GIG i gleifion, a meddyginiaeth am ddim ar gyfer rhai anhwylderau cyffredin.
Os oes gennych anhwylder cyffredin, ac yn ymweld â fferyllfa, gallwch ofyn i'r fferyllydd am gyngor a chymorth. Gall y fferyllydd roi meddyginiaeth i chi i drin yr anhwylder cyffredin.
- Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn os ydych yn byw yng Nghymru ac wedi cofrestru gyda Phractis Meddyg Teulu. Mae hyn yn cynnwys preswylwyr dros dro.
- Efallai y bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o bwy ydych chi i'r fferyllydd cyn y gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth os nad yw'r fferyllydd yn eich adnabod.
- Dim ond gydag un fferyllfa gymunedol ar y tro y gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth anhwylderau cyffredin. Os ydych am fynd i fferyllfa gymunedol arall ar gyfer y gwasanaeth, gallwch wneud hynny, ond bydd angen i chi gofrestru gyda'r fferyllfa newydd.
- Byddwch yn cael ymgynghoriad gyda fferyllydd cymwys mewn ardal breifat o fewn y fferyllfa
- Os bydd eich fferyllydd o’r farn bod angen meddyginiaeth neu gynnyrch arnoch i drin eich symptomau, efallai y bydd yn gallu rhoi’r rheiny i chi am ddim o dan y gwasanaeth hwn. Os nad ydych yn dymuno cofrestru gyda'r gwasanaeth, bydd y fferyllydd yn rhoi cyngor i chi, ond ni fydd yn gallu darparu unrhyw feddyginiaeth am ddim.
Pa salwch neu anhwylder sy'n dod o dan y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin?
- Acne
- Tarwden y traed
- Poen cefn
- Brech yr ieir
- Dolur annwyd
- Colig
- Rhwymedd
- Dermatitis
- Dolur rhydd
- Llygaid sych
- Ecsema
- Heintiau llygaid
- Clefyd y gwair
- Llau pen
- Diffyg traul
- Casewin
- Intertrigo
- Wlserau’r geg
- Brech cewyn
- Llindag y geg
- Peils
- Tarwden
- Y clefyd crafu/sgabies
- Dolur gwddf
- Torri dannedd
- Llyngyr edau
- Llindag y wain
- Ferwca
Os yw’ch fferyllydd yn teimlo ei bod yn fwy priodol i chi weld eich meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall, efallai y bydd yn dweud wrthych am drefnu apwyntiad
I gael rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin, ewch i’r wefan wefan GIG 111 Cymru.