Trosolwg o'r rhaglen
Trosolwg o raglen ein cwrs 6 wythnos i hunanreoli'r symptomau o fyw gyda chyflwr iechyd corfforol neu iechyd meddwl hirdymor.
Wythnos 1
- Trosolwg o hunanreoli a chyflyrau iechyd tymor hir
- Blinder a chael noson dda o gwsg
- Defnyddio eich meddwl i reoli symptomau
- Paratoi cynllun gweithredu
Wythnos 2
- Paratoi cynllun gweithredu
- Adborth
- Datrys problemau
- Delio ag emosiynau anodd
- Gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff
- Atal codymau
Wythnos 3
- Paratoi cynllun gweithredu
- Adborth
- Gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff
- Gwneud penderfyniadau
- Rheoli poen
- Bwyta'n iach
Wythnos 4
- Paratoi cynllun gweithredu
- Adborth
- Datrys problemau
- Gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff
- Bwyta'n iach
- Anadlu'n well
- Sgiliau cyfathrebu
Wythnos 5
- Defnyddio eich meddwl i reoli symptomau
- Paratoi cynllun gweithredu
- Adborth
- Bwyta'n iach
- Sgiliau cyfathrebu
- Defnyddio meddyginiaethau
- Delio â hwyliau gwael ac iselder
Wythnos 6
- Defnyddio eich meddwl i reoli symptomau
- Adborth
- Gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am driniaethau
- Gweithio gyda'ch gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
- Cynlluniau at y dyfodol
Gweithgarwch y tu allan i'r cwrs fesul sesiwn
Sesiwn 1
- Deunyddiau darllen y sesiwn hon: Pennod 1 a 2, 5 a 6
- Ymarfer defnyddio dulliau i dynnu sylw.
Sesiwn 2
- Deunyddiau darllen y sesiwn hon: Pennod 5
- Meddyliwch am sut yr hoffech chi ddechrau rhaglen ymarfer corff neu gynyddu'r hyn rydych chi'n ei wneud rŵan.
- Efallai y byddwch am gadw dyddiadur am eich teimladau.
- Yn ystod Sesiwn 3, byddwn yn trafod gwneud penderfyniadau. Erbyn y sesiwn yr wythnos nesaf, meddyliwch am rywbeth yn eich bywyd y mae angen i chi wneud penderfyniad amdano.
Sesiwn 3
- Deunyddiau darllen y sesiwn hon: Pennod 1, 5, 7 a 10
- Dewiswch un o'r dulliau o fonitro ymdrech a gwiriwch lefel eich ymdrech yn ystod gwahanol weithgareddau ac ymarferion.
- Yn ystod Sesiwn 4, byddwn yn edrych ar yr hyn rydym ni'n ei fwyta am 2 ddiwrnod yr wythnos hon.
- Rydym yn awgrymu dewis un diwrnod yn ystod yr wythnos ac un diwrnod ar y penwythnos oherwydd bod ein harferion bwyta yn aml yn wahanol ar benwythnosau. Byddwn yn rhannu'r hyn rydym yn ei ddysgu. Bydd y wybodaeth hon yn ddefnyddiol pan fyddwn ni'n trafod bwyta'n iach yr wythnos nesaf.
Sesiwn 4
- Deunyddiau darllen y sesiwn hon: Pennod 2, 4, 5, 10 ac 11
- Cadwch ddyddiadur bwyd am un diwrnod yn ystod yr wythnos ac un diwrnod ar y penwythnos, unwaith eto.
- Edrychwch ar eich dognau, nifer y calorïau, a'r gramau o fraster a halen rydych chi'n eu bwyta, yn enwedig brasterau dirlawn.
Sesiwn 5
- Deunyddiau darllen y sesiwn hon: Pennod 5, 6, 10 ac 13
- Gwnewch restr sy'n cynnwys enw eich holl feddyginiaethau, y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol a'u rhoddodd ar bresgripsiwn, y dos, dyddiad dechrau eu cymryd, y rheswm dros eu cymryd, ac unrhyw alergeddau i gyffuriau.
- Rydym yn eich gwahodd i ffonio, e-bostio neu ysgrifennu llythyr at eich gweithiwr proffesiynol gofal iechyd am yr hyn rydych chi wedi'i gyflawni yn ystod y rhaglen hon.
- Nid oes rhaid i chi bostio na dangos y llythyrau hyn, ond dewch â nhw gyda chi yr wythnos nesaf i'w defnyddio yn ystod y gweithgaredd rhannu. Os byddwch chi’n postio'r llythyr at eich gweithiwr proffesiynol gofal iechyd, byddai hynny'n helpu i rannu'r neges. Fe fyddem ni hefyd, yn hoffi cael eich caniatâd i rannu eich llythyr â chynrychiolwyr y sefydliad i gael cefnogaeth i ariannu'r rhaglenni hyn. Rhowch wybod i ni a ydych chi'n caniatau i ni rannu eich llythyr.
Sesiwn 6
- Deunyddiau darllen y sesiwn hon: Pennod 6, 11 ac 13
Cysylltwch â'n tîm hunanofal i gael mwy o wybodaeth am ein cyrsiau iechyd a lles, gan gynnwys sut i archebu eich lle.