Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o'r Rhaglen - Byw gyda Chyflwr Cronig

Trosolwg o'r rhaglen

Trosolwg o raglen ein cwrs 6 wythnos i hunanreoli'r symptomau o fyw gyda chyflwr iechyd corfforol neu iechyd meddwl hirdymor. 

Wythnos 1

  • Trosolwg o hunanreoli a chyflyrau iechyd tymor hir
  • Blinder a chael noson dda o gwsg
  • Defnyddio eich meddwl i reoli symptomau
  • Paratoi cynllun gweithredu 

Wythnos 2 

  • Paratoi cynllun gweithredu 
  • Adborth 
  • Datrys problemau
  • Delio ag emosiynau anodd
  • Gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff 
  • Atal codymau

Wythnos 3

  • Paratoi cynllun gweithredu 
  • Adborth
  • Gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff 
  • Gwneud penderfyniadau 
  • Rheoli poen 
  • Bwyta'n iach 

Wythnos 4

  • Paratoi cynllun gweithredu 
  • Adborth
  • Datrys problemau
  • Gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff 
  • Bwyta'n iach 
  • Anadlu'n well 
  • Sgiliau cyfathrebu

Wythnos 5

  • Defnyddio eich meddwl i reoli symptomau 
  • Paratoi cynllun gweithredu
  • Adborth 
  • Bwyta'n iach
  • Sgiliau cyfathrebu
  • Defnyddio meddyginiaethau 
  • Delio â hwyliau gwael ac iselder

Wythnos 6

  • Defnyddio eich meddwl i reoli symptomau 
  • Adborth
  • Gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am driniaethau
  • Gweithio gyda'ch gweithwyr gofal iechyd proffesiynol 
  • Cynlluniau at y dyfodol

Gweithgarwch y tu allan i'r cwrs fesul sesiwn

Sesiwn 1

  • Deunyddiau darllen y sesiwn hon: Pennod 1 a 2, 5 a 6 
  • Ymarfer defnyddio dulliau i dynnu sylw.

Sesiwn 2

  • Deunyddiau darllen y sesiwn hon: Pennod 5
  • Meddyliwch am sut yr hoffech chi ddechrau rhaglen ymarfer corff neu gynyddu'r hyn rydych chi'n ei wneud rŵan.
  • Efallai y byddwch am gadw dyddiadur am eich teimladau.
  • Yn ystod Sesiwn 3, byddwn yn trafod gwneud penderfyniadau. Erbyn y sesiwn yr wythnos nesaf, meddyliwch am rywbeth yn eich bywyd y mae angen i chi wneud penderfyniad amdano.

Sesiwn 3

  • Deunyddiau darllen y sesiwn hon: Pennod 1, 5, 7 a 10 
  • Dewiswch un o'r dulliau o fonitro ymdrech a gwiriwch lefel eich ymdrech yn ystod gwahanol weithgareddau ac ymarferion.
  • Yn ystod Sesiwn 4, byddwn yn edrych ar yr hyn rydym ni'n ei fwyta am 2 ddiwrnod yr wythnos hon.
  • Rydym yn awgrymu dewis un diwrnod yn ystod yr wythnos ac un diwrnod ar y penwythnos oherwydd bod ein harferion bwyta yn aml yn wahanol ar benwythnosau. Byddwn yn rhannu'r hyn rydym yn ei ddysgu. Bydd y wybodaeth hon yn ddefnyddiol pan fyddwn ni'n trafod bwyta'n iach yr wythnos nesaf.

Sesiwn 4

  • Deunyddiau darllen y sesiwn hon: Pennod 2, 4, 5, 10 ac 11 
  • Cadwch ddyddiadur bwyd am un diwrnod yn ystod yr wythnos ac un diwrnod ar y penwythnos, unwaith eto.
  • Edrychwch ar eich dognau, nifer y calorïau, a'r gramau o fraster a halen rydych chi'n eu bwyta, yn enwedig brasterau dirlawn.

Sesiwn 5

  • Deunyddiau darllen y sesiwn hon: Pennod 5, 6, 10 ac 13
  • Gwnewch restr sy'n cynnwys enw eich holl feddyginiaethau, y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol a'u rhoddodd ar bresgripsiwn, y dos, dyddiad dechrau eu cymryd, y rheswm dros eu cymryd, ac unrhyw alergeddau i gyffuriau.
  • Rydym yn eich gwahodd i ffonio, e-bostio neu ysgrifennu llythyr at eich gweithiwr proffesiynol gofal iechyd am yr hyn rydych chi wedi'i gyflawni yn ystod y rhaglen hon.
  • Nid oes rhaid i chi bostio na dangos y llythyrau hyn, ond dewch â nhw gyda chi yr wythnos nesaf i'w defnyddio yn ystod y gweithgaredd rhannu. Os byddwch chi’n postio'r llythyr at eich gweithiwr proffesiynol gofal iechyd, byddai hynny'n helpu i rannu'r neges. Fe fyddem ni hefyd, yn hoffi cael eich caniatâd i rannu eich llythyr â chynrychiolwyr y sefydliad i gael cefnogaeth i ariannu'r rhaglenni hyn. Rhowch wybod i ni a ydych chi'n caniatau i ni rannu eich llythyr.

Sesiwn 6

  • Deunyddiau darllen y sesiwn hon: Pennod 6, 11 ac 13

Cysylltwch â'n tîm hunanofal i gael mwy o wybodaeth am ein cyrsiau iechyd a lles, gan gynnwys sut i archebu eich lle.