Gall genedigaeth fod yn drawmatig am lawer rheswm, megis:
Gall partneriaid geni hefyd deimlo trawma wedi tystio i ddigwyddiad trallodus, weithiau hyd yn oed os yw’r wraig roddodd enedigaeth yn teimlo’n iawn.
Yn yr wythnosau wedi’r enedigaeth, bydd y rhan fwyaf o ferched yn gallu prosesu digwyddiadau’r geni ac unrhyw emosiynau anodd y maen nhw’n eu profi, gyda chymorth priodol. Gall siarad â theulu neu ffrindiau fod yn ddefnyddiol.
Mae rhai merched fodd bynnag yn canfod nad yw’r emosiynau hyn yn mynd i ffwrdd ac fe allant ddechrau profi symptomau Anhwylder Straen wedi Trawma (PTSD). Gall hyn amrywio o ysgafn i ddifrifol a gall effeithio ar fywyd o ddydd i ddydd.
Mae rhain yn cynnwys:
Os ydych yn sylwi bod y symptomau hyn yn para yn hirach nag oddeutu pedair wythnos wedi’r enedigaeth, yna gallech fod yn dioddef o PTSD. Rydych yn fwy tebygol o brofi PTSD yn dilyn genedigaeth os gwnaethoch ddioddef o orbryder neu iselder yn ystod beichiogrwydd neu wedi dioddef profiadau trawma blaenorol. Mae hefyd yn bwysig cofio y gall PTSD ddatblygu wythnosau, fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd wedi’r enedigaeth.
Fe allech ei chael yn anodd bod yn agored o flaen eraill oherwydd eich bod yn teimlo na allwch siarad am yr hyn sydd wedi digwydd i chi. Ond nid oes angen i chi fedru disgrifio’r trawma i ddweud wrth rywun sut rydych yn teimlo ar hyn o bryd. Mae troi at eich bydwraig, ymwelydd iechyd neu Feddyg Teulu yn bwysig gan y gallant eich helpu i gael y gofal a’r cymorth priodol.
Gall y gefnogaeth hon gynnwys: