Mae pawb yn adnabod y teimlad o aros i fyny yn rhy hwyr a theimlo'n sigledig y bore wedyn. Efallai y byddwch chi'n mynd yn bigog, efallai ychydig yn anghofus, mae eich ymatebion a'ch meddwl yn pylu a gallwch chi fod ychydig yn drwsgl. Efallai y byddwch chi'n estyn am y bwydydd anghywir i roi hwb i chi, efallai y byddwch yn brin o gymhelliant a theimlo fel eich bod wedi cael llond bol.
Dyma realiti parhaol i rai pobl. Mae anhunwyr (insomniacs), y rhai sy'n dioddef o gyflyrau fel apnoea cwsg a phobl nad yw eu problemau meddygol, eu hamgylchedd neu eu ffordd o fyw yn caniatáu noson lawn o gwsg iddynt, yn gorfod delio â'r rhain a llawer mwy o symptomau yn ddyddiol.
Felly, sut yn union y mae diffyg cwsg hirdymor yn effeithio ar eich iechyd? Yr ateb syml yw, mewn sawl ffordd.
Yn ôl The Sleep Charity, mae cael llai na chwe awr o gwsg y noson yn rheolaidd yn eich rhoi mewn mwy o berygl o strôc a chlefyd y galon. Gall gynyddu ymwrthedd inswlin sy'n ffactor risg ar gyfer diabetes Math 2 a chlefyd y galon.
Mae llai na phum awr o gwsg y noson yn cynyddu'r risg o ddiabetes a gall cwsg byrrach gynyddu eich lefelau o brotein C-adweithiol, sy'n cael ei ryddhau fel arfer pan fyddwn dan straen neu pan fydd gennym ryw fath o lid yn y corff. Ynghyd â hyn, gall diffyg cwsg digonol wneud i chi awchu am gaffein a diodydd llawn siwgr, sy'n ychwanegu at y broblem.
Mae diffyg cwsg yn effeithio eich system imiwnedd, gan eich gwneud yn fwy agored i heintiau a newidiadau metabolaidd a hormonaidd. Gall achosi problemau fel syndrom coluddyn llidus (IBS) hefyd.
Gall blinder effeithio ar ein gallu i yrru. Mae Llywodraeth y DU yn nodi bod teimlo'n gysglyd yn cyfrannu at un o bob pum damwain traffig (RTAs) ar ffyrdd y DU. Mae'n ychwanegu: “Hefyd, mae'n cynyddu difrifoldeb damwain, gan fod amhariad ar adweithiau gyrrwr.”
Yng Nghymru, byddai hyn yn golygu efallai y byddai mwy na 660 o ddamweiniau traffig wedi cael eu hosgoi yn 2022, pe bai pobl yn cael digon o gwsg.
Yn ôl yr elusen Mental Health UK, gall cwsg effeithio ar eich rheolaeth emosiynol. Mae diffyg cwsg yn gysylltiedig â hwyliau gwael, sydd yn ei dro yn amharu ar gwsg ac yn creu cylch dieflig.
Gall achosi ffocws, cof a chanolbwyntio gwael, fel y crybwyllwyd yn gynharach, a gall ein gwneud yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn ymddygiad peryglus a gwrthgymdeithasol. Gall ein gwneud yn llai abl i reoli straen.
Mae un o bob pedwar plentyn yn dioddef o ryw fath o anhawster cwsg ar ryw adeg neu'i gilydd yn ystod eu datblygiad. Felly, mae canfod problemau cysgu yn gynnar a delio â hwy yn allweddol i sefydlu arferion cysgu da ar gyfer bywyd yn ddiweddarach ac yn rhoi amddiffyniad i ni rhag salwch yn y dyfodol.
Mae The Sleep Charity yn amcangyfrif y bydd tua 40% o weithwyr yn dioddef o broblemau cwsg, felly gall effeithio ar berfformiad yn y gwaith, yn ogystal â meysydd eraill yn ein bywydau.
Mae'r British Medical Association, sy'n gofalu am fuddiannau meddygon, yn rhoi pethau'n fwy plaen. Mae'n dweud: “Gall peidio â chysgu am ddigon o amser roi eich bywydau chi ac eraill mewn perygl.”
Felly, mae’n hawdd gweld sut y gall diffyg cwsg roi straen diangen ar wasanaethau iechyd a staff, sydd eisoes dan bwysau.
Yn gryno, mae cwsg yn feddyginiaeth ataliol a gall y rhan fwyaf ohonom ei gael, gydag ychydig o waith paratoi.
Sleep Deprivation - The Sleep Charity
Sleep deprivation or sleeplessness is the condition of not having enough sleep. It can be either chronic or acute.