Mae cwsg yn amser gorffwys i'r ymennydd ac, yn ei dro, i'r corff. Mae'n gyflwr o ymwybyddiaeth newidiol lle mae gweithgaredd rhai synhwyrau yn gostwng. Mae'n gyfle i'r corff wella ac adnewyddu.
Mae cwsg yn cael ei farcio gan newidiadau deinamig drwy'r corff. Mae’n cynnwys gwahanol gamau ac wrth i chi symud drwyddynt, mae eich anadlu, pwysedd gwaed a thymheredd y corff yn disgyn ac yn codi.
Mae tensiwn yn eich cyhyrau fel arfer yn aros yr un fath â phan fyddwch chi'n effro - ac eithrio yn ystod y cam Symudiad Llygaid Cyflym (REM), sy'n cyfrif am hyd at chwarter eich cwsg.
I ddeall beth mae'n ei wneud, mae angen i ni edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn ystod y camau amrywiol. Mae'r rhain yn newid mewn cylchoedd parhaus wrth i ni orffwys.
Mae pob cylch cyflawn o bedwar cam cwsg yn para tua awr a hanner ac mae angen pedwar neu bump o'r cylchoedd hynny i ddeffro gan deimlo fel eich bod wedi bwrw'ch blinder ac yn barod i ddechrau ar eich diwrnod.
Felly po fwyaf o gwsg a gawn, mwyaf tebygol yr ydym o fagu nerth newydd yn ein corff a'n meddwl.
Mae tri o'r pedwar cam yn rhai Symudiad Llygaid Nad yw'n Gyflym (N1, 2 a 3), ac yna mae cam cwsg REM yn dilyn. Gadewch i ni edrych ar beth ydyn nhw a beth maen nhw'n ei wneud i ni.
N1: Mae hyn yn cyfrif am tua 3-5% o gwsg ac mae'n gam ysgafn. Gallwch chi gael eich deffro yn eithaf hawdd o'r cam hwn ac efallai y byddwch chi'n gwingo ychydig. Efallai y byddwch chi'n teimlo fel eich bod chi'n cwympo ac weithiau'n deffro'n herciog - a elwir yn "herc hypnagogig". Yn y cam hwn mae cyfradd curiad eich calon a'ch anadlu'n arafu a bydd eich cyhyrau'n ymlacio.
N2: Mae'r cam hwn yn cyfrif am tua 45-50% o gyfanswm eich cwsg ym mhob cylch 90 munud. I ddechrau byddwch yn cysgu ychydig yn ddyfnach (er mae'n dal i gael ei ystyried fel “cwsg ysgafn”) am tua 20 munud ond bydd yn mynd yn raddol hirach gyda phob cylch. Mae eich anadlu a chyfradd curiad y galon yn parhau i arafu. Er nad ydym yn gwybod popeth am y cam hwn, rydym yn gwybod ei fod yn rhoi hwb i ran o'r cof hirdymor sy'n gysylltiedig â sgiliau echddygol. Gallai unrhyw amhariad ar y cam hwn o gwsg effeithio ar eich gallu i ddwyn i gof rai gweithredoedd neu effeithio arnoch chi'n cofio sgil yr ydych newydd ei ddysgu.
N3: Dyma'r cam dyfnaf o gwsg ac fe'i gelwir hefyd yn gwsg tonnau araf (SWS). Mae cyfradd curiad eich calon a'ch anadlu yn arafu i'w bwynt isaf a gall fod yn anodd deffro rhywun o'r cam hwn o'r cylch. Yn syml, dyma'r cam cysgu lle mae'r corff yn atgyweirio ei hun ac yn cyflawni'r rhan fwyaf o'i dasgau cynnal a chadw. Mae eich system imiwnedd yn cael ei chryfhau, mae esgyrn yn tyfu, mae meinweoedd a chyhyrau'n cael eu trwsio. Oherwydd ei fod mor hanfodol ar gyfer cof a dysgu, mae plant yn cael mwy o'r math hwn o gwsg nag oedolion. Gyda phob cylch cwsg cyflawn, mae cam N3 yn mynd yn fyrrach ac mae'r REM yn mynd yn hirach. Felly, mae'r rhan fwyaf o'ch cwsg dwfn yn digwydd yn ystod traean cyntaf eich noson o gwsg.
REM: Dyma'r cam o gwsg lle rydyn ni'n profi'r rhan fwyaf o'n breuddwydion mwy cymhleth, ar ffurf stori (gallwch chi freuddwydio yn ystod unrhyw gam o gwsg) a dyma tua chwarter o'r gorffwys a gewch mewn noson. Mae gweithgaredd yr ymennydd yn debyg i fod yn effro ac mae cyfraddau curiad y galon a'ch anadlu yn cynyddu. Gallai eich cam cyntaf o gwsg REM bara cyn lleied â 10 munud cyn i chi fynd yn ôl i gwsg N1 ond mae'n mynd yn hirach gyda phob cylch. Fe’i gelwir yn gwsg Symudiad Llygaid Cyflym oherwydd nid yw cyhyrau eich llygaid wedi llonyddu yn y cam hwn ac yn aml gallwch weld llygaid pobl yn symud y tu ôl i’w hamrannau caeedig. Nid oes unrhyw brawf pendant o'r hyn y mae cwsg REM yn ei wneud i ni ond credir y gallai ein helpu i ffurfio a chysylltu atgofion emosiynol. Un ddamcaniaeth yw ei fod yn bwysig i’n hiechyd meddwl a gallai’r cysylltiad hwn ag atgofion emosiynol helpu i reoleiddio sut rydym yn teimlo. Fodd bynnag, mae gwyddonwyr yn derbyn bod ganddynt lawer mwy i'w ddysgu am gwsg REM.
Rhythmau Circadaidd
Dyma air arall am ein cloc corff. Bydd yn ein sbarduno i godi a bod yn effro yn gynnar yn y bore, os ydym wedi cael digon o gwsg o ansawdd da.
Ar ôl tua 15 awr o fod yn effro, bydd yn rhoi pwysau arnom i fynd i gysgu. Mae'n gylchred gyson 24 awr sy'n rheoli'r prosesau o fewn ein cyrff.
Pan fydd hi'n tywyllu, mae'n sbarduno'r hormon cwsg Melatonin, sy'n gwneud i ni deimlo'n gysglyd. Mae gwrando ar gloc ein corff a chysgu ar yr amser priodol yn ein galluogi i orffwys ac ymadfer yn iawn. Mae torri ar draws y cylchoedd hynny yn creu llanast â phrosesau atgyweirio mewnol y corff.
Mae hyn yn rhywbeth y mae gweithwyr sifft yn dod ar ei draws yn aml ac mae astudiaethau amrywiol wedi cysylltu cyfnodau estynedig o weithio shifft nos â risgiau uwch o broblemau iechyd, megis diabetes a thrawiadau ar y galon.