Mae'r frech goch yn salwch hynod heintus sy'n gallu achosi problemau iechyd difrifol.
Cyn i frechlyn y frech goch gael ei gyflwyno ym 1968, byddai rhyw 100 o blant yng Nghymru ac yn Lloegr yn marw o'r afiechyd bob blwyddyn. Gall unrhyw un ddal y frech goch os nad ydynt wedi cael eu brechu neu os nad ydynt wedi'i chael o'r blaen, ond mae'n fwyaf cyffredin ymysg plant bach.
Oherwydd llwyddiant y rhaglen frechu, mae achosion o'r frech goch a marwolaethau cysylltiedig bellach yn anghyffredin, yn ffodus.