Mae clwy'r pennau (y dwymyn doben) yn haint firaol heintus a oedd yn arfer bod yn gyffredin ymhlith plant cyn cyflwyno'r brechlyn MMR.
Y symptom mwyaf amlwg yw'r chwyddiadau poenus ar ochr y wyneb o dan y clustiau (y chwarennau parotid), sy'n rhoi golwg nodedig i unigolyn, tebyg i "wyneb bochdew". Mae symptomau eraill yn cynnwys cur pen/pen tost, poen yn y cymalau a thymheredd uchel, sy'n gallu datblygu ychydig ddyddiau cyn i'r chwarennau parotid chwyddo.