Neidio i'r prif gynnwy

Astudiaethau achos a fideos gwybodaeth

Sgroliwch i lawr i weld fideos addysgiadol gan rieni a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol...yn ogystal â fideo bach gwych i'w chwarae i'ch plant.

 

 

Dr Sian Owen & Lois Cernyw

Fel mam i fachgen bach 12 mis oed, mae Lois Cernyw o Heart Radio Drive Time a chyflwynydd S4C yn siarad â Dr Sian Owen, Paediatregydd Cynorthwyol  Arbenigol yn y Gymuned. 

Yma mae hi'n gofyn y cwestiynau sy'n gallu mynd trwy feddwl y rhiant cyn mynd â'u plentyn i gael y brechiad MMR.

 

 

 

 

Ellie Roberts – Nyrs Baediatrig

Mae Ellie Roberts, Nyrs Baediatrig ac Imiwneiddio, yn rhannu'r rhesymau pam mae'n bwysig brechu eich plentyn ar amser er mwyn amddiffyn eu hiechyd ac felly, osgoi derbyniadau diangen i'r ysbyty.

 

 

 


Lois Cernyw
Mae Lois Cernyw, cyflwynydd Heart Radio Drivetime ac S4C yn rhannu ei phrofiad o fynd â'i bachgen bach i gael ei  frechiad MMR cyntaf.

Symptomau a diagnosis
Mae Rachel yn disgrifio’i phrofiad hi o’r frech goch pan gafodd ei merch yr afiechyd yn dair oed. Yn y fideo yma, mae Rachel yn disgrifio symptomau Lola, sut cafodd ddiagnosis o’r frech goch a’r driniaeth y cafodd hi.

 

 

Y risgiau sy’n gysylltiedig â’r frech goch

Dr Graham Brown yn disgrifio'r peryglon sy’n gysylltiedig â’r frech goch a phwysigrwydd cael 2 ddos o’r brechlyn MMR er mwyn amddiffyn ein hunain, ein teuluoedd a’r gymuned ehangach yn erbyn y Frech Goch, Clwy'r Pennau a Rwbela.

 


 

 

 

Ysbyty Cyw o S4C

Gall y clip byr hwn o "Ysbyty Cyw" helpu i ddisgrifio i’ch plentyn pam fod imiwneiddio yn bwysig, a beth i’w ddisgwyl pan fyddent yn ei dderbyn.

Gallwch droi isdeitlau ymlaen/i ffwrdd gan ddefnyddio'r eicon testun ar waelod ochr dde'r sgrin. Yr ydym yn ddiolchgar i S4C a Chwarel am eu caniatâd i ddefnyddio'r rhaglen hon.