Gall aelodau o staff gael eu brechu rhag y ffliw heb orfod trefnu apwyntiad ymlaen llaw yn ein clinigau galw heibio
Mae'r clinigau brechu hyn ar gyfer staff y Bwrdd Iechyd a'r GIG yn unig. Efallai y gofynnir i chi ddangos eich cerdyn adnabod staff cyn cael eich brechu. Os nad ydych chi'n aelod o staff y GIG, cliciwch yma am fwy o wybodaeth am sut i gael eich brechu rhag y ffliw.
Edrychwch am ragor o wybodaeth yn eich gweithle am gyfleoedd i dderbyn eich brechlyn ffliw gan frechwr cymheiriaid lleol, neu gofynnwch i'ch rheolwr llinell. Er mwyn trefnu i frechwr ffliw ymweld â'ch ward, adran neu weithle i gynnig sesiwn i staff, cwblhewch y ffurflen hon. Mae apwyntiadau y gellir eu trefnu ymlaen llaw ar gyfer brechu staff rhag y ffliw ar gael mewn rhai safleoedd.
Bydd brechlynnau ffliw ar gyfer staff y Bwrdd Iechyd a staff eraill y GIG hefyd ar gael yn un o'r fferyllfeydd cymunedol lawer sy'n cynnig y brechlyn ledled Gogledd Cymru. Cysylltwch â'ch fferyllfa leol ymlaen llaw gan y gallai fod angen i chi wneud apwyntiad, a chofiwch fynd â'ch cerdyn adnabod GIG gyda chi. Efallai y bydd staff y Bwrdd Iechyd a staff eraill y GIG sy'n rhan o un o'r grwpiau cymwys eraill yn cael eu gwahodd i dderbyn eu brechlyn yn eu meddygfa.
Os ydych yn cael eich brechlyn ffliw mewn fferyllfa gymunedol neu feddygfa y tu allan i Gymru, rhowch wybod i dîm iechyd galwedigaethol y bwrdd iechyd gan ddefnyddio'r ffurflen hon fel y gallwn gadw eich cofnodion brechiadau galwedigaethol yn gyfredol.
Nid yw timau'r Bwrdd Iechyd yn gallu brechu staff nyrsio asiantaeth. Gall staff nyrsio asiantaeth drefnu brechiad ffliw trwy eu cyflogwr.
Ni fydd staff y Bwrdd Iechyd a staff eraill y GIG yn cael cynnig brechlyn rhag COVID-19 yn y gwaith yr hydref hwn, yn dilyn cyngor gan Lywodraeth Cymru.
Efallai y bydd staff y Bwrdd Iechyd a staff eraill y GIG yn cael cynnig brechlyn COVID-19 os ydynt yn rhan o un o'r grwpiau cymwys eraill, a byddant yn cael eu gwahodd i dderbyn y brechlyn trwy lythyr.