Staff y Bwrdd Iechyd a staff y GIG: manteisiwch ar eich brechlyn ffliw

 Mae brechlynnau ffliw yn lleihau'r risg o salwch difrifol i staff, ein hanwyliaid, cleifion a chydweithwyr

Gall holl staff y bwrdd iechyd a gweithwyr eraill y GIG dderbyn brechyn ffliw i staff yn y gwaith erbyn hyn. Mae brechlynnau ar gael trwy gadw lle mewn clinigau brechu neu trwy alw heibio, gan frechwyr cymheiriaid a brechwyr sy’n ymweld â wardiau, adrannau a gweithleoedd.

Cwblhewch ein ffurflen adborth ar y ffliw i staff er mwyn rhoi cynnig ar y raffl wobrau, lle caiff taleb siopa gwerth £50 ei hennill bob wythnos tan Rhagfyr 13. Gofynnwch i’ch brechwr i gael rhagor o wybodaeth am sut i roi cynnig arni, cliciwch yma i ragor o fanylion (dolen fewnol yn unig) neu chwiliwch Flu ar BetsiNet.

 

Mae manylion cyswllt ein brechwyr cymheiriaid ffliw staff ar gael yma (dolen fewnol yn unig, Saesneg y unig). Edrychwch am ragor o wybodaeth yn eich gweithle am gyfleoedd i dderbyn eich brechlyn ffliw gan frechwr cymheiriaid lleol, neu gofynnwch i'ch rheolwr llinell.

Os nad ydych chi'n aelod o staff y GIG, cliciwch yma am fwy o wybodaeth am sut i gael eich brechu rhag y ffliw.
 

Ffyrdd eraill o dderbyn eich brechlyn ffliw blynyddol i staff

Efallai y bydd staff y Bwrdd Iechyd a staff eraill y GIG sy'n rhan o un o'r grwpiau cymwys eraill yn cael eu gwahodd i dderbyn eu brechlyn yn eu meddygfa. Bydd brechlynnau ffliw ar gyfer staff y Bwrdd Iechyd a staff eraill y GIG hefyd ar gael yn un o'r fferyllfeydd cymunedol lawer sy'n cynnig y brechlyn ledled Gogledd Cymru. Cysylltwch â'ch fferyllfa leol ymlaen llaw gan y gallai fod angen i chi wneud apwyntiad, a chofiwch fynd â'ch cerdyn adnabod GIG gyda chi.

Os ydych yn cael eich brechlyn ffliw y tu allan i Gymru, rhowch wybod i ni gan ddefnyddio'r ffurflen hon fel y gallwn gadw cofnodion brechiadau yn gyfredol.

Nid yw timau'r Bwrdd Iechyd yn gallu brechu staff nyrsio asiantaeth. Gall staff nyrsio asiantaeth drefnu brechiad ffliw trwy eu cyflogwr. 


Brechlynnau COVID-19 y Hydref

Ni fydd staff y Bwrdd Iechyd a staff eraill y GIG yn cael cynnig brechlyn rhag COVID-19 yn y gwaith yr hydref hwn, yn dilyn cyngor gan Lywodraeth Cymru. 

Efallai y bydd staff y Bwrdd Iechyd a staff eraill y GIG yn cael cynnig brechlyn COVID-19 os ydynt yn rhan o un o'r grwpiau cymwys eraill.
 

Rhagor o wybodaeth am y brechlyn ffliw