Gwahoddir staff i drefnu apwyntiad i gael eu brechu rhag y ffliw mewn clinigau ym mis Medi eleni
Mae'r holl fanylion ynglŷn â threfnu apwyntiad mewn clinigau brechu staff rhag y ffliw, gan gynnwys lleoliadau, dyddiadau ac amseroedd, ar gael yn y dolenni isod.
Ceir lle yn y sesiynau hyn drwy drefnu apwyntiad ymlaen llaw yn unig. Cynhelir clinigau galw heibio ar gyfer brechu staff rhag y ffliw mewn lleoliadau ledled Gogledd Cymru o ddydd Llun 29 Medi ymlaen.
Sylwch fod y clinigau brechu hyn ar gyfer staff y Bwrdd Iechyd yn unig. Efallai y gofynnir i chi ddangos eich cerdyn adnabod staff cyn i chi gael eich brechu. Os nad ydych chi'n aelod o staff y GIG, cliciwch yma am fwy o wybodaeth am sut i gael eich brechu rhag y ffliw.
Sylwch mai dim ond ar gyfer staff o dan 65 mlwydd oed y mae'r apwyntiadau hyn y gellir eu trefnu ymlaen llaw ar gael. Er mwyn sicrhau'r amddiffyniad gorau'r gaeaf hwn a lleihau'r risg o effaith y brechlyn yn pylu ymysg y grwpiau risg uchaf, dim ond o 1 Hydref ymlaen y bydd staff 65 mlwydd oed a hŷn yn cael eu brechu rhag y ffliw mewn clinigau neu gan frechwyr cyfoedion.
Efallai y bydd staff y Bwrdd Iechyd a staff eraill y GIG sy'n rhan o un o'r grwpiau cymwys eraill yn cael eu gwahodd i dderbyn eu brechlyn yn eu meddygfa. Bydd brechlynnau ffliw ar gyfer staff y Bwrdd Iechyd a staff eraill y GIG hefyd ar gael yn un o'r fferyllfeydd cymunedol lawer sy'n cynnig y brechlyn ledled Gogledd Cymru. Cysylltwch â'ch fferyllfa leol ymlaen llaw gan y gallai fod angen i chi wneud apwyntiad, a chofiwch fynd â'ch cerdyn adnabod GIG gyda chi.
Os ydych yn cael eich brechlyn ffliw mewn fferyllfa gymunedol neu feddygfa, rhowch wybod i dîm iechyd galwedigaethol y bwrdd iechyd gan ddefnyddio'r ffurflen hon fel y gallwn gadw eich cofnodion brechiadau galwedigaethol yn gyfredol.
Nid yw timau'r Bwrdd Iechyd yn gallu brechu staff nyrsio asiantaeth. Gall staff nyrsio asiantaeth drefnu brechiad ffliw trwy eu cyflogwr.
Ni fydd staff y Bwrdd Iechyd a staff eraill y GIG yn cael cynnig brechlyn rhag COVID-19 yn y gwaith yr hydref hwn, yn dilyn cyngor gan Lywodraeth Cymru.
Efallai y bydd staff y Bwrdd Iechyd a staff eraill y GIG yn cael cynnig brechlyn COVID-19 os ydynt yn rhan o un o'r grwpiau cymwys eraill, a byddant yn cael eu gwahodd i dderbyn y brechlyn trwy lythyr.