Neidio i'r prif gynnwy

Staff y Bwrdd Iechyd a staff y GIG: manteisiwch ar eich brechlyn ffliw

Mae brechlynnau ffliw yn lleihau'r risg o salwch difrifol i staff, ein hanwyliaid, cleifion a chydweithwyr

Sut i dderbyn eich brechlyn ffliw i staff

Gall staff y Bwrdd Iechyd a staff eraill y GIG ddewis trefnu apwyntiad yn un o'n canolfannau brechu, mynd i glinig brechu galw heibio, neu dderbyn brechlyn gan eu brechwr cymheiriaid lleol i staff. Mae rhagor o wybodaeth am leoliadau, dyddiadau ac amseroedd apwyntiadau i'w trefnu a sesiynau galw heibio ar gael isod. 

Os nad ydych chi'n aelod o staff y GIG, cliciwch yma am fwy o wybodaeth am sut i gael eich brechu rhag y ffliw.

Edrychwch am ragor o wybodaeth yn eich gweithle am gyfleoedd i dderbyn eich brechlyn ffliw gan frechwr cymheiriaid lleol, neu gofynnwch i'ch rheolwr llinell.

Er mwyn trefnu i frechwr ffliw ymweld â'ch ward, adran neu weithle i gynnig sesiwn i staff, cwblhewch y ffurflen hon
 

Ffyrdd eraill o dderbyn eich brechlyn ffliw blynyddol i staff

Efallai y bydd staff y Bwrdd Iechyd a staff eraill y GIG sy'n rhan o un o'r grwpiau cymwys eraill yn cael eu gwahodd i dderbyn eu brechlyn yn eu meddygfa. Bydd brechlynnau ffliw ar gyfer staff y Bwrdd Iechyd a staff eraill y GIG hefyd ar gael yn un o'r fferyllfeydd cymunedol lawer sy'n cynnig y brechlyn ledled Gogledd Cymru. Cysylltwch â'ch fferyllfa leol ymlaen llaw gan y gallai fod angen i chi wneud apwyntiad, a chofiwch fynd â'ch cerdyn adnabod GIG gyda chi.

Os ydych yn cael eich brechlyn ffliw mewn fferyllfa gymunedol neu feddygfarhowch wybod i dîm iechyd galwedigaethol y bwrdd iechyd gan ddefnyddio'r ffurflen hon fel y gallwn gadw eich cofnodion brechiadau galwedigaethol yn gyfredol.

Nid yw timau'r Bwrdd Iechyd yn gallu brechu staff nyrsio asiantaeth. Gall staff nyrsio asiantaeth drefnu brechiad ffliw trwy eu cyflogwr. 


Brechlynnau COVID-19 y Hydref

Ni fydd staff y Bwrdd Iechyd a staff eraill y GIG yn cael cynnig brechlyn rhag COVID-19 yn y gwaith yr hydref hwn, yn dilyn cyngor gan Lywodraeth Cymru

Efallai y bydd staff y Bwrdd Iechyd a staff eraill y GIG yn cael cynnig brechlyn COVID-19 os ydynt yn rhan o un o'r grwpiau cymwys eraill, a byddant yn cael eu gwahodd i dderbyn y brechlyn trwy lythyr.
 

Rhagor o wybodaeth am y brechlyn ffliw