Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â'r rhaglen frechu rhag y ffliw mewn ysgolion

Amddiffyniad cyflym a di-boen yn erbyn feirws y ffliw i’n plant


 

Neges gan ein timau imiwneiddio mewn ysgolion

Gall y ffliw fod yn salwch difrifol ac annymunol ymhlith plant. Bydd y brechiad trwy chwistrell trwyn, di-boen, yn helpu i amddiffyn eich plentyn rhag y risg o ddal haint ffliw difrifol, ac yn lleihau’r siawns y bydd y bobl sy’n agored i niwed yn eich cymuned, gan gynnwys perthnasau hŷn, yn dal y feirws.

Bydd ein timau imiwneiddio mewn ysgolion yn ymweld ȃ phob ysgol ar draws Gogledd Cymru yn cynnig brechiad y ffliw trwy gydol tymor yr Hydref. Caiff brechiadau rhag y ffliw mewn ysgolion eu rhoi i bob plentyn o’r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 11 (wedi eu geni rhwng 1 Medi 2008 ac 31 Awst 2020).

Bydd ysgolion yn rhoi gwybod i rieni am ddyddiad y clinig brechiad rhag y ffliw ac yn rhannu ffurflenni cydsyniad. Mae’n bwysig bod rhieni yn dychwelyd y ffurflen gydsynio wedi'i chwblhau cyn diwrnod brechu’r plentyn. Bydd sesiynau dal i fyny yn cael eu cynnal ar gyfer plant nad oedd yn gallu bod yn yr ysgol ar ddiwrnod y clinig brechu rhag ffliw.

Bydd tîm imiwneiddio ysgolion lleol yn cysylltu â rhieni plant sy'n cael eu haddysgu gartref i gynnig y brechiad rhag y ffliw a gwneud trefniadau ar gyfer hynny. 

Bydd plant sy’n ddwy neu’n dair oed (wedi’u geni rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2022) yn cael eu gwahodd am frechiad rhag y ffliw trwy chwistrell trwyn ym meddygfa eu Meddyg Teulu, a hynny am ddim – cadwch lygad am wahoddiad i wneud apwyntiad i gryfhau eu hamddiffyniad yn erbyn y feirws. Dyma ragor o wybodaeth ynglŷn ȃ chymhwysedd i dderbyn y brechiad rhag y ffliw
 

Cysylltwch ȃ thîm imiwneiddio ysgolion lleol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech drafod ein rhaglen frechu rhag y ffliw yn yr ysgol, cysylltwch â’r tîm imiwneiddio ysgolion lleol ar y rhif isod neu siaradwch â'ch nyrs ysgol.

Wrecsam a Sir y Fflint

☎️ 03000 858 599

Sir Ddinbych a Chonwy

☎️ 03000 856 817

Gwynedd ac Ynys Môn

☎️ 03000 843 062 ar gyfer Ynys Môn 
☎️ 03000 851 610 ar gyfer Arfon 
☎️ 03000 843 147 ar gyfer Dwyfor
☎️ 03000 853 471 ar gyfer Meirionnydd
 

Animeiddiadau

Dysgwch ragor am y brechiad rhag y ffliw yn yr animeiddiadau hyn ar gyfer plant ysgolion cynradd ac uwchradd, a ddatblygwyd gan ein cydweithwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.  

 

Ffurflenni cydsynio 

Os ydych wedi colli neu heb dderbyn ffurflen gydsynio ar gyfer brechiad rhag y ffliw eich plentyn,  lawrlwythwch, argraffwch, llenwch a dychwelwch y ffurflen berthnasol isod i ysgol eich plentyn cyn dyddiad y clinig brechu. Cwblhewch a dychwelwch ffurflen unigol ar gyfer pob plentyn. Mae'n ddrwg gennym nad ydym yn gallu derbyn ffurflenni cydsyniad electronig ar hyn o bryd.

Nid yw’n bosibl i nifer fach o blant dderbyn y brechiad trwy chwistrell trwyn oherwydd cyflyrau meddygol neu driniaethau presennol, felly, llenwch y cwestiynau ar y ffurflen yn ofalus. Mae'r brechlyn ffliw trwy chwistrell trwyn yn cynnwys ychydig bach o gelatin fel asiant sefydlogi hanfodol. Mae brechlyn ffliw chwistrelladwy arall ar gael gan feddygfa eich Meddyg Teulu i blant sydd methu derbyn y brechiad trwy chwistrell trwyn.

 

Rhagor o wybodaeth am y brechiad 

Mae gwybodaeth fanwl am y brechiad rhag y ffliw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys cwestiynau cyffredin ar gael yn y ddolen isod.