Neidio i'r prif gynnwy

Galwch heibio am brechlynnau atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref a ffliw

Sgroliwch i lawr i weld dyddiadau, lleoliadau ac amseroedd clinigau

Diweddariad: Ionawr 2 2024

Gall unrhyw un sy’n gymwys ar gyfer brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref neu brechlyn ffliw GIG am ddim alw heibio ein canolfannau brechu cymunedol i gael eu brechlyn, heb orfod trefnu apwyntiad

Cliciwch ar y dolenni isod i weld ein canolfannau brechu cymunedol sy’n agos atoch chi, yn ogystal â gweld y dyddiadau a’r amseroedd sydd ar gael. Gwiriwch os ydych chi'n gymwys ar gyfer brechlynnau yma.

 

Os ydych eisoes wedi cael llythyr apwyntiad

Rydym wedi anfon llythyrau apwyntiad i ddegau o filoedd o bobl sy’n gymwys ar gyfer pigiad atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref. Os nad ydych eisoes wedi cael apwyntiad, gallwch gadw at y dyddiad a’r amser ar eich llythyr neu gallwch ddewis galw heibio un o’r canolfannau brechu ar ddyddiad cynharach.

Os ydych yn gymwys ar gyfer pigiad atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref ond nid ydych wedi derbyn eich llythyr apwyntiad, neu os yw wedi mynd ar goll, gallwch hefyd alw heibio i gael eich brechlyn.

 

Ynglŷn â'n clinigau brechu

Gweler manylion ynghylch ein clinigau brechu ar y dolenni isod.

Efallai y byddwch yn wynebu arhosiad byr yn ystod amseroedd prysur – byddwch yn barod i helpu ein timau drwy aros am slot i ddod ar gael.

 

Am y brechlynnau

Rydym yn annog pawb sy'n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref a brechlyn y ffliw am ddim i amddiffyn eu hunain y gaeaf hwn.