Neidio i'r prif gynnwy

Sir y Fflint

Clinigau brechu cymunedol yn Sir y Fflint

Ceir rhagor o fanylion isod am leoliadau, dyddiadau ac amseroedd ein clinigau.

Mae oedolion cymwys yn cynnwys pobl 65 mlwydd oed neu hŷn, pobl â chyflyrau iechyd gwaelodol, menywod beichiog a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.
Cewch fanylion llawn ynglŷn â chymhwysedd ar gyfer brechlyn ffliw y GIG yma. Mae manylion llawn ynglŷn â chymhwysedd ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 ar gael yma.

Bydd oedolion sy'n gymwys i gael brechlyn GIG rhag y ffliw neu brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 yn gallu galw heibio yn un o'n canolfannau brechu yn y gymuned i gael y brechlynnau heb apwyntiad. Os ydych yn gymwys, efallai y byddwch yn cael y ddau frechlyn ar yr un pryd.

Os ydych eisoes wedi derbyn gwahoddiad i gael eich brechlyn ffliw GIG yn eich meddygfa, ewch i'r apwyntiad fel y cynlluniwyd. Mae brechlynnau ffliw i blant, a roddir drwy chwistrell trwyn di-boen, ar gael o hyd gan eich meddygfa neu dîm imiwneiddio ysgolion lleol.
 
Gall pobl sy'n gymwys i gael y brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 alw heibio yn un o'n clinigau hyd yn oed os oes apwyntiad wedi'i neilltuo iddynt. Nid oes angen cysylltu â ni i ganslo apwyntiad sydd eisoes wedi'i neilltuo. Os oes apwyntiad eisoes wedi'i neilltuo i bobl sy'n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19, gallant ddewis mynd i gael eu brechu ar adeg yr apwyntiad hwnnw os dymunant.

Os yw pobl sy'n gymwys i gael brechlyn yn dymuno trefnu apwyntiad yn un o'n canolfannau brechu cymunedol, gallant gysylltu â Chanolfan Gyswllt Brechu ar 03000 840004 neu e-bostio BCU.SROCovid19VaccinationProgramme@wales.nhs.uk.

 

Eglwys Sant Pedr, Treffynnon

Rosehill, Treffynnon  CH8 7TL

Gall oedolion sy'n gymwys i gael y brechlyn GIG rhag y ffliw a brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 alw heibio un o’n clinigau yn Eglwys Sant Pedr, Treffynnon, ar y dyddiadau canlynol heb apwyntiad. Mae brechlynnau ffliw i blant, a roddir drwy chwistrell trwyn di-boen, ar gael o hyd gan eich meddygfa neu dîm imiwneiddio ysgolion lleol.

Mae oedolion cymwys yn cynnwys pobl 65 mlwydd oed neu hŷn, pobl â chyflyrau iechyd gwaelodol, menywod beichiog a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.
Cewch fanylion llawn ynglŷn â chymhwysedd ar gyfer brechlyn ffliw y GIG yma. Mae manylion llawn ynglŷn â chymhwysedd ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 ar gael yma.

  • Dydd Gwener Ionawr 24
  • Dydd Gwener Ionawr 31
  • Dydd Gwener Chwefror 7
  • Dydd Gwener Chwefror 21
  • Dydd Gwener Chwefror 28

Mae clinigau yn cael eu cynnal rhwng 10am i 12.25pm a rhwng 1.05pm i 4.45pm. Yn ystod amseroedd prysurach, efallai y bydd gofyn i bobl sy’n galw heibio heb apwyntiad aros cyfnod byr tan y bydd slot ar gael.

 

 

Eglwys Ein Harglwyddes y Rosari, Bwcle

Ffordd Jiwbilî, Bwcle  CH7 2BF

Gall oedolion sy'n gymwys i gael y brechlyn GIG rhag y ffliw a brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 alw heibio un o’n clinigau yn Eglwys Ein Harglwyddes y Rosari, Bwcle, ar y dyddiadau canlynol heb apwyntiad. Mae brechlynnau ffliw i blant, a roddir drwy chwistrell trwyn di-boen, ar gael o hyd gan eich meddygfa neu dîm imiwneiddio ysgolion lleol.

Mae oedolion cymwys yn cynnwys pobl 65 mlwydd oed neu hŷn, pobl â chyflyrau iechyd gwaelodol, menywod beichiog a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.
Cewch fanylion llawn ynglŷn â chymhwysedd ar gyfer brechlyn ffliw y GIG yma. Mae manylion llawn ynglŷn â chymhwysedd ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 ar gael yma.

  • Dydd Mercher Ionawr 22
  • Dydd Mercher Chwefror 5

Mae clinigau yn cael eu cynnal rhwng 9.45am i 12.25pm a rhwng 1.05pm i 5pm. Yn ystod amseroedd prysurach, efallai y bydd gofyn i bobl sy’n galw heibio heb apwyntiad aros cyfnod byr tan y bydd slot ar gael.

 

 

Cwt Sgowtiaid Penarlâg

Caeau Chwarae Gladstone, Y Briffordd, Penarlâg  CH5 3DL

Gall oedolion sy'n gymwys i gael y brechlyn GIG rhag y ffliw a brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 alw heibio un o’n clinigau yng Nghwt Sgowtiaid Penarlâg, ar y dyddiadau canlynol heb apwyntiad. Mae brechlynnau ffliw i blant, a roddir drwy chwistrell trwyn di-boen, ar gael o hyd gan eich meddygfa neu dîm imiwneiddio ysgolion lleol.

Mae oedolion cymwys yn cynnwys pobl 65 mlwydd oed neu hŷn, pobl â chyflyrau iechyd gwaelodol, menywod beichiog a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.
Cewch fanylion llawn ynglŷn â chymhwysedd ar gyfer brechlyn ffliw y GIG yma. Mae manylion llawn ynglŷn â chymhwysedd ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 ar gael yma.

  • Dydd Mawrth Ionawr 21
  • Dydd Mawrth Ionawr 28
  • Dydd Mawrth Chwefror 4
  • Dydd Mawrth Chwefror 11
  • Dydd Mawrth Chwefror 18
  • Dydd Mawrth Chwefror 25

Mae clinigau yn cael eu cynnal rhwng 9.45am i 12.25pm a rhwng 1.05pm i 5pm. Yn ystod amseroedd prysurach, efallai y bydd gofyn i bobl sy’n galw heibio heb apwyntiad aros cyfnod byr tan y bydd slot ar gael.

 

 

Lleng Brydeinig Frenhinol, Y Fflint

Allt Goch, Y Fflint  CH6 5NF

Gall oedolion sy'n gymwys i gael y brechlyn GIG rhag y ffliw a brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 alw heibio un o’n clinigau yn y Lleng Brydeinig Frenhinol, Y Fflint, ar y dyddiadau canlynol heb apwyntiad. Mae brechlynnau ffliw i blant, a roddir drwy chwistrell trwyn di-boen, ar gael o hyd gan eich meddygfa neu dîm imiwneiddio ysgolion lleol.

Mae oedolion cymwys yn cynnwys pobl 65 mlwydd oed neu hŷn, pobl â chyflyrau iechyd gwaelodol, menywod beichiog a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.
Cewch fanylion llawn ynglŷn â chymhwysedd ar gyfer brechlyn ffliw y GIG yma. Mae manylion llawn ynglŷn â chymhwysedd ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 ar gael yma.

  • Dydd Llun Ionawr 20

Mae clinigau yn cael eu cynnal rhwng 10am i 12.25pm a rhwng 1.05pm i 4.45pm. Yn ystod amseroedd prysurach, efallai y bydd gofyn i bobl sy’n galw heibio heb apwyntiad aros cyfnod byr tan y bydd slot ar gael.

 

 

Clwb Rygbi'r Wyddgrug

Ffordd Caer, Yr Wyddgrug  CH7 1UF

Gall oedolion sy'n gymwys i gael y brechlyn GIG rhag y ffliw a brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 alw heibio un o’n clinigau yng Nghlwb Rygbi'r Wyddgrug, ar y dyddiadau canlynol heb apwyntiad. Mae brechlynnau ffliw i blant, a roddir drwy chwistrell trwyn di-boen, ar gael o hyd gan eich meddygfa neu dîm imiwneiddio ysgolion lleol.

Mae oedolion cymwys yn cynnwys pobl 65 mlwydd oed neu hŷn, pobl â chyflyrau iechyd gwaelodol, menywod beichiog a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.
Cewch fanylion llawn ynglŷn â chymhwysedd ar gyfer brechlyn ffliw y GIG yma. Mae manylion llawn ynglŷn â chymhwysedd ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 ar gael yma.

  • Dydd Iau Ionawr 23
  • Dydd Iau Ionawr 30
  • Dydd Iau Chwefror 6

Mae clinigau yn cael eu cynnal rhwng 10am i 12.25pm a rhwng 1.05pm i 4.45pm. Yn ystod amseroedd prysurach, efallai y bydd gofyn i bobl sy’n galw heibio heb apwyntiad aros cyfnod byr tan y bydd slot ar gael.

 

 

Clwb Golff Treffynnon

Brynffordd  CH8 8LQ

Gall oedolion sy'n gymwys i gael y brechlyn GIG rhag y ffliw a brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 alw heibio un o’n clinigau yng Nghlwb Golff Treffynnon, ar y dyddiadau canlynol heb apwyntiad. Mae brechlynnau ffliw i blant, a roddir drwy chwistrell trwyn di-boen, ar gael o hyd gan eich meddygfa neu dîm imiwneiddio ysgolion lleol.

Mae oedolion cymwys yn cynnwys pobl 65 mlwydd oed neu hŷn, pobl â chyflyrau iechyd gwaelodol, menywod beichiog a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.
Cewch fanylion llawn ynglŷn â chymhwysedd ar gyfer brechlyn ffliw y GIG yma. Mae manylion llawn ynglŷn â chymhwysedd ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 ar gael yma.

  • Dydd Iau Ionawr 27
  • Dydd Mercher Ionawr 29

Mae clinigau yn cael eu cynnal rhwng 10am i 12.25pm a rhwng 1.05pm i 4.45pm. Yn ystod amseroedd prysurach, efallai y bydd gofyn i bobl sy’n galw heibio heb apwyntiad aros cyfnod byr tan y bydd slot ar gael.

 

 

Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Ewlo

Hen Ffordd yr Wyddgrug, Glannau Dyfrdwy  CH5 3AU

Nid oes dyddiadau clinig ar gael ar hyn o bryd yn Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Ewlo.