Neidio i'r prif gynnwy

Ein clinigau brechu galw heibio

Rydym yn darparu brechiadau atgyfnerthu mewn clinigau brechu cymunedol ledled Gogledd Cymru

Ceir rhagor o fanylion isod am leoliadau, dyddiadau ac amseroedd ein clinigau.

O ddydd Llun 16 Rhagfyr ymlaen, bydd pawb sy'n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 yn gallu galw heibio yn un o'n canolfannau brechu yn y gymuned i gael y brechlyn heb apwyntiad. 
Gall pobl sy'n gymwys i gael y brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 alw heibio yn un o'n clinigau hyd yn oed os oes apwyntiad wedi'i neilltuo iddynt. Nid oes angen cysylltu â ni i ganslo apwyntiad sydd eisoes wedi'i neilltuo.
Os oes apwyntiad eisoes wedi'i neilltuo i bobl sy'n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19, gallant ddewis mynd i gael eu brechu ar adeg yr apwyntiad hwnnw os dymunant.

Os yw pobl sy'n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 yn dymuno trefnu apwyntiad, gallant gysylltu â Chanolfan Alwadau ein Gwasanaeth Brechu ar 03000 840004 neu gallant e-bostio BCU.SROCovid19VaccinationProgramme@wales.nhs.uk.

Bydd staff y GIG, aelod o staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal, pob gweithiwr gofal cymdeithasol arall a gweithwyr gofal cartref yn gallu galw heibio yn un o'r clinigau hyn i gael eu brechlyn blynyddol rhag y ffliw heb apwyntiad. Bydd brechlynnau rhag y ffliw alw heibio ar gael i aelodau staff y GIG a gweithiwr gofal yn unig ar yr adeg hon – cofiwch ddod â'ch bathodynnau adnabod neu llythyr gan eich cyflogwr.

Mae gwybodaeth ar gael yma ynghylch sut gall pobl eraill sy'n gymwys i gael brechlyn rhag y ffliw gan y GIG sicrhau eu bod yn cael hynny

 

Cysylltwch â ni ynghylch eich apwyntiad

Ar gyfer ymholiadau am lythyr apwyntiad neu neges destun yr ydych wedi'u derbyn, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt Brechu ar 03000 840004.  Ni fydd ein canolfan ymholiadau’n gallu gwneud apwyntiadau newydd, ond gallwn eich helpu os bydd angen i chi aildrefnu apwyntiad sydd gennych eisoes.

Mae'r ganolfan gyswllt ar agor 8am-6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae ar gau ar benwythnosau ac ar wyliau banc.
 

Oriau agor Nadolig a Blwyddyn Newydd Ganolfan Gyswllt Brechu

Dydd Llun Rhagfyr 23 – 8am i 6pm
Dydd Mawrth Rhagfyr 24 – 8am i 2pm
Dydd Mercher Rhagfyr 25 – ar gau
Dydd Iau Rhagfyr 26 – ar gau
Dydd Gwener Rhagfyr 27 – 8am i 4pm

Dydd Llun Rhagfyr 30 – 8am i 4pm
Dydd Mawrth Rhagfyr 31 – 8am i 2pm
Dydd Mercher Ionawr 1 – ar gau
Dydd Iau Ionawr 2 – 8am i 6pm
Dydd Gwener Ionawr 3 – 8am i 6pm

Mwy o wybodaeth am galw'r Ganolfan Gyswllt Brechu.